South West and Mid Wales Consortium

[English]

Archif Newyddion

Chwefror 2011

Astudiaeth Dichonolrwydd Anghenion Addysgol Ychwanegol

Mae Llywodraeth Cymru newydd ryddhau ffurflenni cais ar gyfer y Broses Asesu Cynorthwywyr Addysg Lefel Uwch 2011-2012. Mae statws Cynorthwywyr Addysgu Lefel Uwch (HLTA) yn gyfle i gydnabod lefelau gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth sydd gan lawer o staff cefnogi yn ein hysgolion a'u cyfraniad gwerthfawr mewn ysgolion. I gael mwy o fanylion, cliciwch yma

I gael mwy o fanylion, cliciwch yma


Astudiaeth Dichonolrwydd Anghenion Addysgol Ychwanegol

Mae Consortiwm De-orllewin a Chanolbarth Cymru (swamwac), yn ystyried datblygu sawl maes ar gyfer gwasanaethau a rennir posib ac mae un o'r meysydd ynghylch datblygu cyfleuster posib i bobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae astudiaeth dichonolrwydd cychwynnol wedi'i chomisiynu i werthuso angen, math o leoliad a gynigir a'r trefniadau gorau yn llawn ar gyfer rhoi unrhyw gyfleuster newydd ar waith. Rhagwelir y bydd yr astudiaeth dichonolrwydd yn cael ei chwblhau erbyn diwedd mis Awst 2011.

Mae dogfen gwmpasu sy’n cynnwys mwy o fanylion ar gael ar gais, a bwriedir darparu'r
newyddion diweddaraf misol ar gynnydd. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu i gael mwy o wybodaeth, e-bostiwch admin@swamwac.org


Parthed: Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth (CPCP)

Cyfle i gymryd rhan mewn cynllun peilot datblygiadol model diwygiedig Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth (CPCP)

CPCP

Ionawr 2011

System Arweinyddiaeth

Fel y gwyddoch, mae'n siŵr, mae chwe awdurdod Consortiwm De-orllewin a Chanolbarth Cymru'n gweithio ar y cyd i ddatblygu galluedd er mwyn darparu ymyriad a chefnogaeth effeithiol o safon i ysgolion er mwyn codi safonau cyrhaeddiad a chyflawniad dysgwyr.

Mae mynegiadau o ddiddordeb gan arweinwyr ysgolion ac awdurdodau lleol yn cael eu gwerthuso ar hyn o bryd. Cânt eu lleoli ar gyfer y rolau hyn ar sail angen a'u penodi gan Awdurdodau Lleol ac Ysgolion.


Medi 2010

Rhaglen Datblygu Cymunedau Dysgu Proffesiynol APADGOS

Bydd rhaglen datblygu CDP yn cael ei chynnal yn yr hydref a’r gwanwyn. Yr Athro Alma Harris a Michelle Jones fydd yn arwain y rhaglen. Bydd cynrychiolwyr 210 o ysgolion ynghyd â swyddogion ALl yn cymryd rhan yn y gweithgaredd datblygu proffesiynol gwerthfawr hwn. Bydd adborth am y rhaglen ar y wefan yn nhymor yr haf.

Am ddyddiadau, lleoliadau a mwy o fanylion cliciwch yma


Ebrill 2010

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi lansio’r Safonau Cenedlaethol ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol Gwella Addysg yng Nghymru ac mae rownd gyntaf o hyfforddiant, a gyflwynwyd trwy waith consortiwm, wedi rhoi cyflwyniad i’r safonau ar gyfer llawer o staff gwella addysg ar draws swamwac. Rhagwelir rhagor o ddigwyddiadau hyfforddi yn 2010.

Mawrth 2010

Mawrth 2010

Croeso i dudalen flaen swamwac ar ei newydd wedd lle cewch eitemau o ddiddordeb wedi’u diweddaru’n rheolaidd am fentrau gwaith consortiwm presennol a dolenni cyflym i fannau mwyaf poblogaidd y wefan.
Mae Cynllun Strategol 2009-10 gwaith consortiwm swamwac bellach ar gael ar y wefan.


Bwletin

Bwletin 4: Ionawr 2009 125kb

Bwletin 3: Mai 2008 84kb

Bwletin 2: Ionawr 2008 78kb

Bwletin 1: Rhagfyr 2007 85kb