South West and Mid Wales Consortium

[English]

Newyddion

Arweinyddiaeth Systemau

Rydym yn ceisio mynegiadau o ddiddordeb gan arweinwyr ysgolion ac awdurdodau lleol sydd am weithio ochr yn ochr â swyddogion gwella ysgolion yr awdurdod lleol i ddarparu cefnogaeth ac ymyriad i ysgolion mewn awdurdodau lleol ar draws Consortiwm De-orllewin a Chanolbarth Cymru drwy gyflawni un neu fwy o'r rolau arweinydd system sy?n tanategu ffordd rhanbarthol o ymdrin ag arweinyddiaeth system. Cânt eu lleoli ar gyfer y rolau hyn ar sail angen a'u penodi gan Awdurdodau Lleol ac Ysgolion. Y ddwy rôl yw
• Arloeswr Cwricwlwm ac Addysgeg
• Ymyraethau Ysgol Gyfan

Am ragor o wybodaeth ar sut i wneud cais cliciwch yma.
Dyddiad cau ar gyfer Mynegiadau o Ddiddordeb yw Dydd Iau Ebrill 5ed 2012.


Cynigion i ddiwygio'r gofynion ar gyfer cofrestru'r gweithlu addysg yng Nghymru

Amgaeaf linc i ddogfen ymgynghori sydd yn gofyn am eich barn ar y cynnig a ddylai'r orfodaeth sydd ar athrawon i gofrestru gyda chorff proffesiynol gael ei ymestyn er mwyn cynnwys sector ehangach, er enghraifft addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith a chynorthwywyr addysgu. Mae'r ddogfen hefyd yn gofyn eich barn a ddylai aelodau eraill o'r proffesiwn addysg sy'n ymwneud â datblygiad plant a phobl ifanc, fel gweithwyr ieuenctid a staff cymorth eraill, hefyd fedru cofrestru Yr wyf yn awyddus i gael eich barn am hyn.

http://wales.gov.uk/consultations/education/regeducationworkforce/?lang=cy>

Dylech anfon eich sylwadau erbyn 30 Mawrth 2012


Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth yng Nghymru 2011/12

Mae'r cyfnod ymgeisio ar gyfer CPCP Cymru 2011 - 2012 ar agor nawr.
Yma fe gewch ganllawiau cynnal hunan-asesiad yn erbyn y Safonau Arweinyddiaeth a deunydd cefnogi ar gyfer eich cais.
Cliciwch yma am:


Cyswllt Cyflym

Trefniadaeth a Datblygiad Mewngofnodi CALU Statws Cynorthwy-ydd Addysgu Lefel Uwch (CALU) yng Nghymru RHAGORI
Fframwaith Cefnogi, Herio ac Ymyrryd Rhanbarthol YA Proforma - Mynediad Cyfrinair Rheoli Perfformiad Penaethiaid