Cymraeg > Eich Datblygiad Proffesiynol
Eich Datblygiad Proffesiynol 2008-2009

Rhagair

"Un nod amgen DPP effeithiol yw ethos o ddysgu gydol oes a datblygiad yn yr ysgol. Os yw'r staff yn enghreifftio dysgu fel gweithgaredd greddfol a pharhaol, byddant hefyd yn gweithredu fel modelau rôl i'r disgyblion"

O 'Sut mae DPP da yn edrych'
Asiantaeth Hyfforddiant a Datblygiad i Ysgolion (TDA) 2007.

Annwyl Gydweithiwr,

Er mwyn sicrhau'r effaith gorau posibl, rhaid i Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) fod yn gynhwysol a chymryd i ystyriaeth anghenion datblygu pawb sydd ynghlwm â gweithlu ysgol esblygol wedi ei ailfodelu. Nod y CD hon yw bod yn adnodd i gynorthwyo llywodraethwyr ysgol, athrawon a staff cefnogi sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifainc drwy gyflwyno amrediad o gyfleoedd datblygu proffesiynol a hwylusir drwy fod gwasanaethau gwella ysgolion a chynhwysiant Sir Gaerfyrddin a Cheredigion yn gweithio ar y cyd.

Teitl y CD yw 'Eich Datblygiad Proffesiynol' gan ei bod yn rhoi cyfle i chi fel unigolyn i ôl-ystyried a datblygu eich arferion eich hun drwy gydweithredu ag eraill, boed hynny ar lefel adran, ysgol, teulu, ardal, sir neu consortiwm.

Gofynnwn i chi ymgyfarwyddo â gwahanol adrannau'r ddisg a'r gweithgareddau a gynigir ganddynt, ac o wneud hynny, gobeithio y byddwch yn cydnabod ei gwerth fel cyfrwng i'ch cynorthwyo i gynnal eich gwybodaeth, eich dealltwriaeth a'ch sgiliau proffesiynol. Cyflwynir Rhaglen 2008-09 drwy dri llinyn yn hytrach na phedwar, (mae'r llinyn blaenorol 'lledaenu a rhannu arfer da' wedi ei gynnwys yn y tri llinyn arall). Gellir cael mynediad i'r llinynnau trwy glicio ar y cysylltiadau canlynol:

Llinyn 1: Rhaglen Cyrsiau Byrion
Llinyn 2: Prosiectau Teulu Ysgolion a Phrosiectau Ardal
Llinyn 3: Gweithio ar lefel Consortiwm

Fel yn y blynyddoedd blaenorol, mae adran Cymorth a Chefnogaeth ar y ddisg lle gellwch gysylltu ag unigolion, gwefannau a dogfenni cyfeirio. Dymunwn dynnu'ch sylw yn arbennig at y Cyfeiriadur Gwasanaethau yn yr adran Cymorth a Chefnogaeth, sy'n rhoi trosolwg i chi o'r hyn oll y ceisiwn ei gyflawni yn ystod rhaglen 2008-2009.

Vernon Morgan
Gareth Jones
Cyfarwyddwr Addysg
a Gwasanaethau Plant
Sir Gaerfyrddin
Cyfarwyddwr Addysg
a Gwasanaethau Cymunedol
Ceredigion

print page