South West and Mid Wales Consortium

[English]

CDP Logo

Cyfleoedd Datblygiad Proffesiynol

Cliciwch yma i Chwilio am Ddigwyddiad

Sut i ddefnyddio Cyfleuster Chwilio Cyfleoedd Datblygiad Proffesiynol

Mae’r gronfa ddata chwiliadwy hon yn dod â digwyddiadau ynghyd o’r holl 6 awdurdod sydd yn y consortiwm.

Dod o hyd i Ddigwyddiad

Gallwch chwilio drwy bedwar dull

Unwaith i chi benderfynu ar eich meini prawf, cliciwch ar fotwm Dod o hyd i Ddigwyddiad i symud i’r sgrîn nesaf ...

Dangos y Digwyddiadau a Gafwyd

Mae’r sgrîn hon yn dangos nifer y cyrsiau a gafwyd yn ôl eich meini prawf. Os na chafwyd cyrsiau, cliciwch y ddolen i ddychwelyd a mireinio’ch meini prawf a chwilio eto.

Rhestrir y cyrsiau a gafwyd yn ôl eich meini prawf fesul categori, a gwelir enw’r cwrs, y lefel, y categori a’r darparwr.

Cliciwch ar Gyfeirnod y Digwyddiad i’r chwith o enw’r cwrs i gael mwy o fanylion am y cwrs a symud i’r sgrîn nesaf “Dewis Digwyddiad”.

Dewis y Digwyddiad

Mae’r sgrîn hon yn rhoi mwy o fanylion am y cyrsiau gan gynnwys arweinydd y cwrs (os yw’n hysbys), disgrifiad o’r cwrs, cynulleidfa darged, hyd y cwrs a manylion ychwanegol sydd ar gael i’ch helpu i benderfynu ai hwn yw’r cwrs y byddech yn dymuno ei astudio.

Ar waelod y sgrîn, ceir rhestr o ddyddiadau’r cwrs. Gallai hyn fod yn un dyddiad, neu’n fwy nag un os ailadroddir y cwrs.

I fynegi diddordeb mewn cael lle ar y cwrs, cliciwch ar Gyfeirnod y Digwyddiad a fydd yn eich tywys i’r sgrîn nesaf ...

Gwneud Cais am Le

Os hoffech wneud cais am le, gallwch naill ai argraffu’r dudalen yma a’i rhoi i’ch swyddog datblygu staff neu bennaeth, fel y bo’n briodol, er mwyn iddynt brosesu’r cais yn y ffordd arferol, neu, gallwch gwblhau’r ffurflen archebu lle pan fyddwch wedi dewis y cwrs. Pan fyddwch yn cyflwyno’r ffurflen gais, cewch e-bost gan Weinyddwr Darparwr y Cwrs yn cadarnhau manylion y digwyddiad rydych chi’n dymuno cael lle ynddo. Caiff e-bost ei anfon yn awtomatig hefyd at y sawl sy’n rhoi caniatâd er mwyn iddynt ganiatáu’r cais am le.

Nid yw mynegi diddordeb mewn lle yn gwarantu bod lle wedi’i neilltuo i chi, ac ni ddylech neilltuo amser i ffwrdd neu gyflenwi nes i chi dderbyn cadarnhad gan y Gweinyddwr fod lle wedi’i neilltuo i chi.

Cost

Mae’r costau i ysgolion yn yr Awdurdodau sy’n Darparu yn unol â chytundebau mewnol yr Awdurdodau â’u hysgolion a nodir y gost yma wrth ochr pob digwyddiad. Caiff y gost i ysgolion eraill ar gyfer 2010-11 ei chadarnhau wrth gadw lle, ond fel arfer, bydd yn £80 y dydd neu’r gost a nodir ar y rhestr cyrsiau os yw’n fwy na £80. Bydd yr ysgolion a/neu’r unigolion yn derbyn anfoneb gan yr Awdurdod sy’n darparu’r cwrs.

Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (cyngACC)

Gall athrawon sy’n gweithio mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru fod yn gymwys i gael cyllid gan Gyngor Addysgu Cenedlaethol Cymru (CyngACC) drwy’r ffynonellau canlynol:

Am wybodaeth, cyngor a chymorth pellach yna cysylltwch â’r Cyngor:
Ffon: 02920 550350
Gwefan: www.gtcw.org.uk/cpd

Cliciwch yma i Chwilio am Ddigwyddiad