RHAGORI
Briff
Gwybodaeth ddim ar gael ar hyn o bryd - cysylltwch a admin@swamwac.org
2009-2010
Prosiectau RHAGORI yn rhanbarth swamwac 2009-2010
Gwybodaeth Gefndir RHAGORI
Mae RHAGORI (Codi Cyrhaeddiad a Safonau Addysgol Unigolion yng Nghymru) yn un o brif raglenni Llywodraeth Cynulliad Cymru i fynd i'r afael â'r cysylltiad rhwng anfantais economaidd-gymdeithasol a thangyflawniad addysgol disgyblion.
Yng ngwanwyn 2006, cytunodd Llywodraeth Cynulliad Cymru i ariannu rhaglen dwy flynedd i gefnogi'r agenda cyfiawnder cymdeithasol mewn addysg.Roedd ysgolion yn gymwys i gael grant RHAGORI os oedd ganddynt 50 neu fwy o ddisgyblion o oed ysgol statudol, yr oedd o leiaf 20% ohonynt yn gymwys ar gyfer prydau ysgol am ddim.Ers hynny, mae Llywodraeth y Cynulliad wedi dosbarthu tua £14.5 miliwn bob blwyddyn i ysgolion RHAGORI.Dynodwyd yr arian hwn i fynd i'r afael â'r cysylltiad rhwng anfantais economaidd-gymdeithasol a thangyflawni addysgol.Yn ogystal, mae awdurdodau lleol wedi derbyn £1 miliwn y flwyddyn i gefnogi addysg plant sy'n derbyn gofal.
Mae Awdurdodau lleol, drwy waith consortiwm, wedi bod yn weithredol wrth fonitro a chefnogi'r gwaith o gyflwyno'r rhaglen mewn ysgolion. Mae rhaglen RHAGORI yn cydnabod y berthynas rhwng yr hawl i gael prydau ysgol am ddim a lefelau perfformiad, wrth dargedu disgyblion o dan anfantais yn benodol er mwyn codi eu lefelau perfformiad.
Mae Bwletinau Ystadegol y Cynulliad yn parhau i ddangos "cysylltiad cryf rhwng cyflawniad a lefel yr hawl i gael prydau ysgol am ddim: wrth i lefel yr hawl i gael prydau ysgol am ddim gynyddu, mae lefel cyflawniad yn gostwng."(SB 20/2006, SB 3/2007, SB 13/2008 a SB 15/2009)
Mae Estyn a'r Uned Pobl a Gwaith yn dweud bod ysgolion RHAGORI wedi gallu nodi manteision sylweddol i ddysgwyr dan anfantais.Mae'r rhain yn cynnwys:
- gwell darpariaeth ar gyfer eu hanghenion, oherwydd bod gan staff well dealltwriaeth o effeithiau tlodi ar ddysgu;
- mwy o sylw unigol i'w hanghenion, o ganlyniad i'r cynnydd mewn lefelau staff a ganiatawyd gan RHAGORI;
- gwell sgiliau cymdeithasol, personol ac emosiynol, o ganlyniad i'r ffocws ar sicrhau bod gan ddisgyblion well gallu i gymryd rhan yn gadarnhaol yn y broses ddysgu;
- gwelliannau cwricwlaidd, gan fod dysgu wedi dod yn fwy perthnasol i anghenion a dyheadau'r disgyblion hyn.
- gwell cefnogaeth i ddisgyblion, o ganlyniad i well cysylltiadau â rhieni a'r gymuned ehangach.
Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan RHAGORI y Cynulliad www.raise-wales.org.uk/cym/raise.htm. Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi comisiynu gwerthusiad allanol trylwyr o'r rhaglen, gan nodi themâu allweddol fel meysydd y bydd mentrau RHAGORI ym Mlwyddyn 4 (2009-2010) yn canolbwyntio arnynt.
Dogfennau Allweddol
RHAGORI 4.Prosiectau RHAGORI (Blwyddyn 4) 2009-10