Am ailfodelu
Mae ailfodelu wedi'i lunio i wella statws a chydbwysedd gwaith/bywyd pawb sy'n gweithio yn ein hysgolion. Mae'n galluogi athrawon i ganolbwyntio'n fwy effeithiol ar eu haddysgu ac yn darparu cyfle i bob disgybl gael mwy o lwyddiant.
Y cyfle
Mae ailfodelu'n gyfle i ailasesu gwaith a rôl pawb sy'n ymwneud ag addysgu pobl ifanc. Mae ganddo'r potensial i wella cyfleoedd addysgu a safonau cyflawniad disgyblion yn sylweddol.
Nid yw ailfodelu'n rhywbeth "da i'w wneud", mae'n rhywbeth sy'n "rhaid ei wneud". Mae cyfuniad o newidiadau cymdeithasol a thechnolegol, deddfwriaeth gyflogaeth, mentrau'r Llywodraeth ac asesu disgyblion yn ysgogi newid ar garlam.
Mae ysgolion o dan bwysau i godi safonau a thaclo llwyth gwaith, ac ar yr un pryd maen nhw'n gorfod ymdrin â nifer o faterion nad oes modd eu hosgoi:
- Llwyth gwaith yw'r prif reswm y mae athrawon yn ei roi am adael y proffesiwn.
- Cyn y Cytundeb Cenedlaethol roedd dros 30 y cant o wythnos waith athro/athrawes yn cael ei threulio ar weithgareddau nad oeddynt yn gysylltiedig ag addysgu.
- Yn gyffredinol roedd gan athrawon gydbwysedd gwaith/bywyd gwael.
- Disgwylir i 45 y cant o athrawon ymddeol yn y 15 mlynedd nesaf.
- Mae 1 o bob 5 ANG yn gadael y proffesiwn cyn iddynt gyrraedd eu pedwaredd flwyddyn o addysgu.
- Mae angen datblygu staff cefnogi proffesiynol.
- Mae yna brinder athrawon penodol mewn nifer o bynciau allweddol.
Gyda'i gilydd mae gan y gymuned ailfodelu'r potensial i wella statws pawb sy'n gweithio mewn ysgolion, gwella recriwtio a chadw, herio arferion traddodiadol a helpu i greu gweithlu modern.