South West and Mid Wales Consortium

Cwestiynau gan Lywodraethwyr

Pa mor gyfreithlon yw hyn? Fel corff llywodraethu, beth fydd yn rhaid i ni wneud?

Bydd y newidiadau statudol i gytundebau athrawon yn cael eu cyflwyno'n raddol dros dair blynedd. Bydd Cam 1 yn dod i rym ar 1 Fedi 2003. Mae'r newidiadau cytundebol yn gofyn am drosglwyddo tasgau gweinyddol a chlercyddol o athrawon, bod ysgolion yn ystyried cydbwysedd gwaith/bywyd athrawon a bod pob un sydd â chyfrifoldebau arwain a rheoli'n cael digon o amser wedi'i neilltuo o fewn y sesiwn ysgol ar gyfer hyn. Mae'r canllawiau sy'n dod â Dogfen Tâl ac Amodau Athrawon Ysgol yn darparu ffynhonnell ddefnyddiol o gyngor i ysgolion sy'n cyflawni'r newid hwn.

Oes ymagwedd gyffredin o ran ailfodelu y bydd yn rhaid i bob ysgol ei dilyn, fel yr oedd, er enghraifft, gyda Rheoli Perfformiad?

Bydd angen cyfres o weithrediadau cyffredin ar bob ysgol o ganlyniad i'r Cytundeb Cenedlaethol, yn enwedig ynghylch cyflawni newid cytundebol. Mae'n rhaid i'r newidiadau hyn fod ar waith erbyn y dyddiadau a nodwyd yn y Ddogfen Tâl ac Amodau Athrawon Ysgol oherwydd maent yn hawliau cytundebol i bob athro/athrawes. O ran y materion ehangach ynghylch ailfodelu, bydd hyblygrwydd gan yr ysgolion i fynd i'r afael â'r materion yn eu hysgolion eu hunain mewn modd a fydd yn diwallu eu hanghenion unigol. Mae ysgolion wedi cyrraedd pwyntiau gwahanol o ran eu gallu i newid - mae'r hyn sy'n arloesol i un ysgol yn hen hanes i ysgol arall! Mae cael perchenogaeth ar y materion ynghyd â'r atebion yn allweddol i lwyddiant. Rhoddir arian i AALl drwy Grant Cronfa Safonau 25 i gefnogi ysgolion yn y broses ailfodelu. Mae llawer yn bwriadu penodi hwyluswr i gyd-drefnu'r gwaith hwn. Efallai y byddwch yn dymuno gweld beth sy'n digwydd yn eich AALl priodol.

Ai menter arall y DfES yw hon?

Seilir ailfodelu ar amcanion cynaliadwy sy'n hanfodol i godi safonau a bydd yn ffurfio'r cyd-destun ar gyfer yr holl newidiadau a'r datblygiadau eraill. Rhan o'r holl broses ailfodelu yw dod â'r DfES ac ysgolion yn agosach at ei gilydd er mwyn i bawb, mewn partneriaeth, weithio tuag at well ddealltwriaeth o faterion baich gwaith mewn ysgolion.

Ble dylem ddechrau mynd i'r afael â materion cydbwysedd gwaith/bywyd gyda'r pennaeth, sy'n weithiwr diarbed?

Mae cydbwysedd gwaith/bywyd yn fater hynod o bersonol ac mae'n anodd i'w ddiffinio a mesur ond fel corff llywodraethu mae cyfrifoldeb arnoch i sicrhau bod baich gwaith y pennaeth yn cael ei gadw at lefel rhesymol. Un ffordd o ddechrau hyn fyddai adolygu arferion y corff llywodraethu, ynghylch baich gwaith y pennaeth - er enghraifft amserlenni cyfarfodydd a strwythur pwyllgorau. Gallai cytuno ar amcan cydbwysedd gwaith/bywyd gyda'r pennaeth yn ystod ei adolygiad perfformiad/ei hadolygiad perfformiad nesaf fod yn strategaeth arall.