Cwestiynau gan Staff Cefnogi
Ydy cynorthwywyr addysgu, y mae ganddynt ddisgrifiad swydd sy'n cynnwys dyletswyddau goruchwylio a chyflenwi, yn gallu cael eu hailgyfeirio o'u dyletswyddau arferol i oruchwylio grwp dosbarth cyfan?
Prif bwrpas diwygio disgrifiadau swyddi'r staff cefnogi presennol i gynnwys darpariaeth o oruchwyliaeth gyflenwi (yn dilyn hyfforddiant priodol) yw y bydd yn darparu modd priodol a hyblyg sy'n gallu ymateb i absenoldebau athrawon nas rhagwelir. Pan fo gofynion sy'n gwrthdaro o ran amser aelod o'r staff cefnogi dylai'r pennaeth benderfynu sut y bydd defnyddio'r person hwnnw o fantais i'r holl ddisgyblion. Sut bynnag, os bydd swydd aelod o'r staff cefnogi'n cael ei hariannu'n rhannol i ddarparu cefnogaeth ar gyfer disgybl penodol ni ddylid eu hailgyfeirio o'r dyletswyddau cefnogi'r disgybl unigol oni bai bod hyn yn cael ei ystyried i fod yn fwy buddiol i'r disgybl hwnnw.
Beth fydd yn digwydd i'n gwahaniaethau cyfradd cyflog os ydy pob un ohonom yn newid ein swyddi?
Mae'n rhaid i newidiadau i ddisgrifiadau swyddi a rolau fod yn destun trafod. Nid mater o wahaniaethau cyfradd cyflog mohono, ond bydd yn ymwneud â sicrhau bod staff yn cael eu talu a'u hyfforddi'n ddigonol am y swydd y gofynnir iddynt ei wneud. Dylai staff cefnogi chwilio am gyngor gan eu hundeb a bydd gan bob AALl gytundebau lleol ynghylch materion tâl a graddio. Mae'r Cydgyngor Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Llywodraeth Lleol yn gweithio ar gyngor i gynorthwyo penderfyniadau lleol. Bydd y cyngor hwnnw'n cynnwys y datblygiadau a amlinellir yn y cytundeb Cenedlaethol. Mae llyfryn y Cydgyngor Cenedlaethol “Staff Cefnogi Ysgolion: Y Ffordd Ymlaen” yn rhoi cyngor defnyddiol.
Os gofynnir i staff gweinyddol gymryd rhagor o ddyletswyddau, a fyddwn yn cael ein hyfforddi i'w gwneud?
Mae hawl gan unrhyw berson y gofynnir iddynt ysgwyddo dyletswyddau newydd dderbyn hyfforddiant priodol. Mae'r rhan fwyaf o Awdurdodau Lleol yn cynnig ystod dda o raglenni hyfforddiant i staff gweinyddol, yn enwedig ar agweddau ar TGCh. Mae gan AALl arian yn un o'r cronfeydd Grantiau Safonol i dalu am hyfforddi staff cefnogi. Cysylltwch â'ch AALl lleol am wybodaeth. Mae'r Coleg Cenedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Ysgolion yn cynnig rhaglen hyfforddi sylweddol i fwrsariaid ysgol, sydd ar gael ym mhob rhan o'r wlad. Ceir gwybodaeth ar wefan CCAY.
Ble byddwn i gyd yn gweithio os bydd yr ysgol yn cyflogi mwy o Gynorthwywyr Dysgu a staff gweinyddol eraill?
Mae lle yn adnodd allweddol arall mewn ysgolion. Gallai adolygu ei ddefnydd, i gefnogi dysgu, fod yn rhan hanfodol o'r broses ailfodelu. Mae materion i'w hystyried yn cynnwys darparu lle i weithio a lle i gymdeithasu. Mae'r Llywodraeth wedi neilltuo arian cyfalaf ychwanegol i wella llety. Gellir dod o hyd i ragor o fanylion ar wefan Adeiladu Ysgolion i'r Dyfodol.
Mae fy mhennaeth yn newid fy nisgrifiad swydd i leihau'r amser yr wyf yn ei dreulio gyda phlant. A oes rhaid i mi gytuno â hyn? A ydw i'n gallu siarad â rhywun?
Fel y manylir yn Nodyn 1 GMCG, “Wrth drosglwyddo tasgau gweinyddol a chlercyddol i staff cefnogi, bydd yn rhai i benaethiaid ystyried addasrwydd y dasg i rôl bresennol yr aelod o staff, yr effaith ar eu baich gwaith ac a oes digon o amser ar gael, neu a ellir ei ryddhau; a oes angen hyfforddiant ychwanegol ac unrhyw oblygiad o ran tâl neu raddio”. Os oes pryderon gennych, byddai'n well i chi eu trafod gyda'ch rheolwr llinell i ddechrau. Efallai byddwch yn dymuno gofyn i'ch cynrychiolydd undeb am gyngor, os ydych yn aelod o undeb.
A ydw i'n gallu disgwyl codiad cyflog yn awtomatig os yn ymgymryd â hyfforddiant newydd?
Mae cyflogau'n cael eu talu am waith a wneir a chyfrifoldebau yr ymgymerir â hwy felly'r ateb cryno i'r cwestiwn hwn yw 'Nac ydych'. Ceir ychydig iawn o feysydd gwaith lle mae codiadau cyflog awtomatig yn gysylltiedig â chymhwyster newydd neu hyfforddiant. Sut bynnag, os ydych yn cytuno i ymgymryd â dyletswyddau newydd efallai y bydd angen adolygiad ailraddio. Os byddwch yn cael y statws Cynorthwy-ydd Dysgu Lefel Uwch (CDLU), byddwch yn gallu ceisio am swydd ar y lefel honno naill ai yn eich ysgol eich hun neu ysgol arall. Sut bynnag, ni fyddech yn derbyn codiad cyflog yn awtomatig o ganlyniad i gael y statws. OS ydych yn meddwl am wneud asesiad CDLU, dylech chwilio am gyngor a chefnogaeth gan eich pennaeth a'r AALl.
A ydw i'n gallu disgwyl codiad cyflog yn awtomatig os yn ymgymryd â hyfforddiant newydd?
Mae cyflogau'n cael eu talu am waith a wneir a chyfrifoldebau yr ymgymerir â hwy felly'r ateb cryno i'r cwestiwn hwn yw 'Nac ydych'. Ceir ychydig iawn o feysydd gwaith lle mae codiadau cyflog awtomatig yn gysylltiedig â chymhwyster newydd neu hyfforddiant. Sut bynnag, os ydych yn cytuno i ymgymryd â dyletswyddau newydd efallai y bydd angen adolygiad ailraddio. Os byddwch yn cael y statws Cynorthwy-ydd Dysgu Lefel Uwch (CDLU), byddwch yn gallu ceisio am swydd ar y lefel honno naill ai yn eich ysgol eich hun neu ysgol arall. Sut bynnag, ni fyddech yn derbyn codiad cyflog yn awtomatig o ganlyniad i gael y statws. OS ydych yn meddwl am wneud asesiad CDLU, dylech chwilio am gyngor a chefnogaeth gan eich pennaeth a'r AALl.
A fydd yn rhaid i mi fynychu cyfarfodydd y tîm newid ar ôl oriau ysgol?
Fel arfer, mae digon o le am ymagwedd hyblyg i'r sefyllfa hon, i sicrhau eich bod yn gallu cyfrannu at waith hanfodol y tîm newid. Ni ellir disgwyl i aelodau staff cefnogi weithio y tu allan i oriau contract heb dderbyn yr iawndal priodol. Mae llawer o ysgolion wedi trefnu i dimau newid gwrdd, o bryd i'w gilydd, yn ystod amser ysgol neu i aelodau gyfrannu at waith y timau mewn ffyrdd eraill. Efallai y bydd ysgolion eisiau ystyried rhoi oriau yn lle amser a weithiwyd er mwyn gadael iddynt fynychu cyfarfodydd y timau newid.