Consortiwm de Orllewin a Chanolbarth Cymru

Trosglwyddo tasgau gweinyddol a chlercyddol

Ar 15 Ionawr 2003 llofnododd y Llywodraeth, cyflogwyr a chymdeithasau proffesiynol y Cytundeb Cenedlaethol Llwyth Gwaith sydd wedi'i lunio i helpu codi safonau mewn ysgolion drwy daclo llwyth gwaith a galluogi athrawon i ganolbwyntio ar ddysgu ac addysgu. Ymysg newidiadau cytundebol eraill, mae'r Cytundeb yn nodi na ddylai fod yn ofynnol i athrawon gyflawni tasgau gweinyddol a chlercyddol yn rheolaidd. Rhoddir enghreifftiau ac fe'u rhestrir isod:

Erbyn hyn, mae'n rhaid bod ysgolion wedi cyflawni trosglwyddiad y tasgau gweinyddol a chlercyddol hyn. Hefyd, mae'n ofynnol i ysgolion o dan eu cytundeb sicrhau bod darpariaeth ar gael i athrawon a phenaethiaid fwynhau cydbwysedd gwaith/bywyd rhesymol. Mae gan athrawon a chanddynt gyfrifoldeb arwain neu reoli'r hawl i neilltuo amser rhesymol o fewn sesiynau'r ysgol i gefnogi dadlwytho'u cyfrifoldebau.

Os oes gennych syniadau yr hoffech eu hychwanegu ynghylch rheoli'r newidiadau cytundebol - hoffem glywed gennych.

Rydym yn eich gwahodd hefyd i edrych ar, graddio, a gwneud sylwadau ar syniadau gwefan IdeaBank y Tîm Ailfodelu Cenedlaethol: http://www.remodelling.org/ideabank.php.

<< blaenorol    nesaf >>

© 2005 Baglan IT Centre & 2007 2m Partnership Ltd