South West and Mid Wales Consortium

[English]

Astudiaethau Achos Pontio

Teulu Ysgolion Bro Gwaun: Pecyn Cymorth Sgiliau Meddwl

Trosolwg o’r Prosiect

Casgliad o strategaethau a deunyddiau mewn ffolder i gefnogi sgiliau meddwl yn yr ystafell ddosbarth. Daeth penaethiaid o ysgolion y 'teulu' i HMS y Sir ar Sgiliau Meddwl yn 2006 a chytunwyd i edrych ar nifer o strategaethau meddwl. Ar ôl hynny, gwnaethant gynnal diwrnod HMS ar gyfer holl staff eu hysgolion, gyda siaradwr gwadd a oedd wedi datblygu'r ymagweddau at ddefnyddio sgiliau meddwl ymhellach. Yna, bu cyd-weithwyr dethol yn cwrdd i greu ffolder dwyieithog yn rhoi manylion am nifer o strategaethau, gyda deunyddiau sy'n cyd-fynd er mwyn eu defnyddio yn yr ystafell ddosbarth.

Ysgolion sy'n cymryd rhan

Ysgol Bro Gwaun, Abergwaun a'i 9 ysgol fwydo (Bro Ingli, Ger y Llan, Treletert, Glannau Gwaun Abergwaun, Gwdig, Ysgol Gatholig yr Enw Sanctaidd, Llanychllwydog, Mathri, Cas-mael, Cas-blaidd).

Iaith

Dwyieithog

Cyd-destun

Mae Ysgol Bro Gwaun yn Ysgol Gyfun ar gyfer 700 o ddisgyblion 11-18 oed yn Abergwaun sy'n dod o 8 ysgol gynradd, ac mae’r rhan fwyaf yng nghategori A neu A/B. Mae llawer o'r disgyblion yn dod o gefndiroedd Saesneg eu hiaith. Mae pump neu chwe phwnc yn y cwricwlwm yn cael eu haddysgu i rai setiau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Cysylltiadau allweddol

Sian Bowen, Pennaeth Cynorthwyol, Ysgol Bro Gwaun, Heol Dyfed, Abergwaun SA65 9DT
01348 872268
Sbowen@yuabergwaun.co.uk

Judy Griffiths, Pennaeth, Ysgol yr Eglwys yng Nghymru RW Mathri, Mathri, Hwlffordd SA62 5HA
01348 831452
Head.mathry@pembrokeshire.gov.uk

Adnoddau

3a. Bro Gwaun Powerpoint1
4a. Bro Gwaun Powerpoint2
5a. Bro Gwaun rationale
6a. Bro Gwaun THUNKS

Cwestiynau cyffredin

Bro Gwaun FAQ

Diolchiadau

Deunyddiau a ddatblygwyd ar sail gwaith Andy Hind a Simon Cooper-Hind. Y mae’r ddau yn garedig wedi darparu copïau o'u cyflwyniadau o'u HMS yn Sir Benfro.