Astudiaethau Achos Pontio
Greenhill, Dinbych y Pysgod: Meddwl – Paru - Rhannu
Trosolwg o’r Prosiect
Sefydlu ffordd gyffredin o weithio mewn parau o Ysgol Gynradd i Ysgol Uwchradd, o CA1 - CA4. Bu holl ysgolion y teulu yn rhannu HMS cyffredin yn 2006 ac maent wedi cytuno i edrych ar nifer o strategaethau meddwl. Yr ymagwedd gytûn gychwynnol yw Sgiliau Cwestiynu, gan ddefnyddio'r ymagwedd 'Meddwl, Paru, Rhannu’. Mae athrawon wedi ymweld â'i gilydd i weld arfer da ac mae HMS pellach wedi'u galluogi i ddatblygu deunyddiau er mwyn ei gynnal, gan gynnwys DVD o arfer ystafell ddosbarth.
Ysgolion sy'n cymryd rhan
Ysgol Uwchradd Greenhill, Dinbych y Pysgod a'i hysgolion partner (Ysgol Gynradd Maenorbyr, Ysgol Gynradd Arberth, Ysgol Gynradd Sageston, Ysgol Gynradd Saundersfoot, Ysgol Gynradd Stepaside, Ysgol Gynradd St Florence, Ysgol Gynradd a reolir yn wirfoddol St Oswald, Ysgol Gynradd Gatholig St Teilo, Ysgol Gynradd Tavernspite, Ysgol Gynradd Tredeml, Ysgol Fabanod Dinbych y Pysgod, Ysgol Gynradd Dinbych y Pysgod).
Iaith
Saesneg
Cyd-destun
Mae Ysgol Greenhill yn ysgol gyfun ar gyfer disgyblion 11-18 oed sy'n cynnwys 1400 o ddisgyblion yn nhref lan môr Dinbych y Pysgod. Mae ganddi ddalgylch rhannol-wledig, bron uniaith Saesneg, sy'n cynnwys un ar ddeg ysgol gynradd ac un ysgol fabanod. Mae canlyniadau CA2 yn y clwstwr yn uwch na chyfartaledd yr AALl. Ar wahân i dair ysgol yng ngogledd y dalgylch, mae disgyblion o bob ysgol bartner yn trosglwyddo i Greenhill.
Cysylltiadau allweddol
Margery Brown, Pennaeth
Ysgol yr Eglwys yng Nghymru RW St Oswald, Creseli, Cilgeti SA68 0SP
01646 651409
head@stoswalds.pembrokeshire.gov.uk
Adnoddau
3. Tenby 'feet'
4. Tenby Thinking guidelines.doc
5. Tenby DVD notes
6. Questions that test
implications and consequences
Video Consent Form
Saundersfoot CP Early Years
Greenhilll School Year 12 Geography
Greenhilll School Year 7 History
Tenby Infant's School Year 1
Saundersfoot CP School Year 5 History
St Teilo's Catholic Primary School "Thinking Feet"
Narberth Primary "Thnking Skils"
Sageston CP School Years 4 & 5 "William Shakespeare"
Tenby Junior Schol Year 6 "Thinking Dice"