Cytundeb y Consortiwm
Drwy gydweithio, ein gweledigaeth yw datblygu a chyflwyno gwell gwasanaethau i blant a phobl ifanc ac yn eu cefnogi i gyflawni safonau gwell.
Mae'r chwe awdurdod sy'n ffurfio Consortiwm De-orllewin a Chanolbarth Cymru, sef Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro, Powys ac Abertawe, wedi cydweithio mewn amrywiaeth o ffyrdd ers rhai blynyddoedd ac yn parhau i geisio datblygu systemau a ffyrdd newydd o weithio sy'n:
- cadw at ethos pob awdurdod,
- yn parhau i ganolbwyntio ar anghenion y dysgwr ac
- yn darparu manteision ychwanegol ar gyfer pawb
Mae gwaith consortiwm
- yn gwella safonau cyrhaeddiad a chyflawniad
- yn darparu cyd-gefnogaeth
- yn adeiladu ar waith llwyddiannus yr awdurdodau unigol ac yn ychwanegu gwerth ato ac
- yn sicrhau dwyieithrwydd
- wrth geisio sicrhau bod yr ymagwedd a ddatblygir yn gost-effeithiol ac yn cyflawni gwerth am arian.
Nid oes un ffordd o gydweithio sy'n addas i bob sefyllfa ac felly mae swamwac wedi mabwysiadu Continwwm o waith Consortiwm (30kb
) sy'n darparu'r hyblygrwydd mae ei angen i gynnwys amrywiaeth o sefyllfaoedd ac atebion.
Rhwng mis Medi 2006 a mis Mai 2007, gwnaeth swamwac amrywiaeth o waith ymchwil a datblygu, gan ddefnyddio arian a ddarparwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Roedd ffrwyth y prosiect Creu Cysylltiadau (132kb
) hwn yn cynnwys strwythur llywodraethu (361kb
) a chynllun gweithredu. Bellach mae'r cynllun gweithredu wedi cael ei ddatblygu'n Gynllun Strategol (148kb
) .