Meysydd Dwaith y Consortiwm
Mae cryfder a llwyddiant gweithio mewn consortiwm o fewn awdurdodau lleol SWAMWAC yn ganlyniad parodrwydd athrawon, penaethiaid a swyddogion proffesiynol i rannu profiad ac arbenigedd a chyfrannu at waith datblygu er lles pob dysgwr ar draws y rhanbarth gyfan.
Un o elfennau allweddol model gwaith y consortiwm yw defnyddio staff proffesiynol presennol mewn grwpiau i nodi amcanion a bennir gan bob awdurdod ond y gellir eu cyflawni’n fwy effeithlon ac effeithiol gan awdurdodau sy’n cydweithredu.
Nid oes unrhyw ffordd benodol o gydweithio sy’n addas ar gyfer pob sefyllfa ac felly mae swamwac wedi mabwysiadu Continwwm o Waith Consortiwm sy’n darparu’r hyblygrwydd angenrheidiol i gynnwys amrywiaeth o sefyllfaoedd a datrysiadau.
Pryd bynnag y caiff gwaith consortiwm ei ddewis fel dull o sicrhau gwelliannau, rhaid i gynnig o’r fath brofi gwerth ychwanegol o’i gymharu ag awdurdodau sy’n gweithio ar eu pennau eu hunain, ac mae’n rhaid iddo gydnabod yr angen i flaenoriaethu gwelliannau a manteision i blant a phobl ifanc.
Mae pob un o grwpiau’r consortiwm yn gweithio i gyflawni camau gweithredu o fewn Cynllun Strategol y Consortiwm a’r Cynllun Strategol Dros Dro.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Hwylusydd y grŵp.