Consortiwm de Orllewin a Chanolbarth Cymru

Ymgynghoriad Brosiect Creu Cysylltiadau

Mae Consortiwm De-orllewin a Chanolbarth Cymru (swamwac) yn sefydliad llwyddiannus, effeithlon a chydweithiol a ffurfiwyd gan Awdurdodau Addysg Lleol Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro, Powys a Dinas a Sir Abertawe. Fel y byddwch yn ymwybodol, mae swamwac wedi gwneud cais llwyddiannus am arian gan Gronfa Gwelliannau Creu'r Cysylltiadau i ddatblygu gwaith consortiwm ar draws y chwe awdurdod.

Bydd deilliannau arfaethedig y prosiect yn ddatblygiad pwysig mewn addysg ar draws De Orllewin a Chanolbarth Cymru a byddant yn cael effaith sylweddol ar waith Awdurdodau Lleol a'r berthynas rhwng ysgolion a'u Hawdurdod Lleol. Rydym yn ymroddedig i ymgynghori ar sail mor helaeth â phosib ynghylch deilliannau arfaethedig y prosiect. Fel rhanddeiliaid pwysig byddem yn gwerthfawrogi eich cyfraniad i'r broses ymgynghori.

Diben yr ymgynghoriad hwn yw rhoi cyfle i chi wneud sylwadau a dylanwadu ar ddatblygiad Cynllun Gweithredu Thematig a Strwythur Creu'r Cysylltiadau. Rydym yn ymgynghori ag ystod eang o grwpiau rhanddeiliaid ac yn gwerthfawrogi pob ymateb. Bydd adborth o’r ymgynghori o gymorth i ffurfio canlyniadau terfynol y prosiect.

Byddwch gystal â darllen y dogfennau ymgynghori ar y wefan a chwblhau'r ffurflen ymateb.

Sylwer mai 11 Mai 2007 yw'r terfyn amser ar gyfer derbyn cyfraniadau.

Dogfennau Ymgynghoriad

Cyflwyniad

Cynllun Gweithredu Thematig 2007-2010

Y Model Llywodraethu, Rheolaeth a'r Strwythur Trefniadol

Eich Cyfle i ymateb

Ffurflen Ymateb i Brosiect Creu Cysylltiadau swamwac

Dogfennau Ategol

Cynllun Gweithredu Creu'r Cysylltiadau 2007-2008

Cynllun Gweithredu Creu'r Cysylltiadau 2008-2009

Cynllun Gweithredu Creu'r Cysylltiadau 2009-2010

© 2005 Baglan IT Centre & 2007 2m Partnership Ltd