Ymgynghoriad Brosiect Creu Cysylltiadau
Cyflwyniad i'r Ymgynghoriad ar Brosiect Creu'r Cysylltiadau swamwac
Bydd y dolenni yma’n mynd â chi at rannau perthnasol o’r Cyflwyniad
Gallwch lawrlwytho’r ddogfen gyfan
yma
Proses Ymgynghori
Beth yw’r Consortiwm?
Beth yw Prosiect Creu’r Cysylltiadau?
Beth yw'r rhesymeg sy'n sail ar gyfer deilliannau arfaethedig y prosiect?
Beth yw gwaith Consortiwm?
Beth yw’r Cynllun Gweithredu?
Beth yw’r Strwythur?
Beth yw’r themau gwaith y Consortiwm?
Beth yw diben yr ymgynghoriad hwn?
Diben yr ymgynghoriad yw darparu cyfle i chi wneud sylwadau a dylanwadu ar ddatblygiad Cynllun Gweithredu Thematig a Strwythur Creu'r Cysylltiadau. Rydym yn ymgynghori ag amrywiaeth eang o grwpiau rhanddeiliaid a gwerthfawrogwn bob ymateb. Bydd adborth o'r ymgynghoriad yn cynorthwyo wrth lunio deilliannau terfynol y prosiect. Byddwch gystal â darllen y dogfennau a ddarperir yma a llenwi'r ffurflen ymateb. Ble gallaf ddod o hyd i'r dogfennau ymgynghori? Mae'r dogfennau ymgynghori ar gael ar wefan y Consortiwm ac mae e-byst wedi cael eu hanfon at randdeiliaid i roi gwybod i bawb am yr ymgynghoriad. Mae ffurflenni ymateb electronig ar y wefan.
Pryd mae'r cyfnod ymgynghori?
Mae'r broses ymgynghori mewn dau gam. Dyma Gam 1 y broses, sy'n ceisio eich barn ar y Cynllun Gweithredu Thematig arfaethedig a'r Strwythur. Llenwch y ffurflen ymateb a'i dychwelyd erbyn 11 Mai 2007.
Bydd Cam 2 yn ceisio barn ynghylch y Cynllun Rhoi ar Waith dilynol, a bydd yn digwydd ddiwedd mis Mai 2007.
Ble gallaf ddod o hyd i'r dogfennau ymgynghori?
Mae'r dogfennau ymgynghori ar gael ar wefan y Consortiwm ac mae e-byst wedi cael eu hanfon at randdeiliaid i roi gwybod i bawb am yr ymgynghoriad. Mae ffurflenni ymateb electronig ar y wefan.
Pa ddogfennau sydd ar gael i fod yn destun ymgynghori?
Mae'r dogfennau ymgynghori dwyieithog fel a ganlyn:
- Cyflwyniad i'r Ymgynghoriad ar Brosiect Creu'r Cysylltiadau swamwac
- Deilliant 1: Cynllun Gweithredu Thematig
- Deilliant 2: Y Model Llywodraethu, Rheolaeth a'r Strwythur Trefniadol
- Ffurflen ymateb
Sut mae ymateb i'r broses ymgynghori?
Llenwch y ffurflen ymateb ar-lein i gyfrannu eich barn ynghylch dau ddeilliant cyntaf Prosiect Creu'r Cysylltiadau. Os byddai'n well gennych, gallwch anfon copïau caled at Phil Brophy, swamwac, Coleg y Drindod, Caerfyrddin, SA31 3EP neu gallwch e-bostio: makingconnections@swamwac.org
Beth fydd canlyniad y broses ymgynghori?
Bydd tîm y prosiect yn coladu'r atebion ac yn cyflwyno crynodeb i'r Grwp Strategol, sy'n gyfrifol am reoli'r prosiect. Bydd y crynodeb hwn ar gael ar y wefan hefyd.
Oes unrhyw ddogfennau ategol eraill?
Mae dogfennaeth bellach sy'n cefnogi Deilliannau 1 a 2 y prosiect ar gael yn adran Dogfennaeth Ategol y wefan. Mae Cynllun Gweithredu Datblygiadol 3 Blynedd hefyd sy'n darparu mwy o fanylion ynghylch datblygiad y
Cynllun Gweithredu Thematig. Mae hwn ar gael ar y wefan a chroesewir eich sylwadau arno.
Cynllun Gweithredu Datblygol Blwyddyn 1
Cynllun Gweithredu Datblygol Blwyddyn 2
Cynllun Gweithredu Datblygol Blwyddyn 3
Beth yw'r Consortiwm?
Mae Consortiwm De-orllewin a Chanolbarth Cymru (swamwac) yn sefydliad llwyddiannus, effeithlon a chydweithiol a ffurfiwyd gan Awdurdodau Addysg Lleol Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro, Powys a Dinas a Sir Abertawe. O fewn Consortiwm De-orllewin a Chanolbarth Cymru mae 635 o ysgolion a gwasanaethau addysgu, sef 32% o ysgolion Cymru a 28% o'r disgyblion. Mae 48% o'r ysgolion yn rhai cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog ac mae 52% o'r ysgolion yn rhai cyfrwng Saesneg gyda Chymraeg fel ail iaith.
Mae'r chwe awdurdod wedi cydweithio fel Consortiwm ers 2000. Dechreuodd yn fach am fod ei gylch gwaith yn gyfyngedig i nifer bach o feysydd, ond wrth i ddeilliannau positif gwaith y Consortiwm gael eu gwireddu, mae'r cylch gwaith wedi cael ei estyn. Cyflawnwyd deilliannau positif yn sgîl gwaith Consortiwm mewn meysydd fel Asesiadau Trothwy athrawon, Rheoli Perfformiad athrawon a phenaethiaid, Ailfodelu'r Gweithlu a Datblygiad Proffesiynol Parhaus. Mae'r holl awdurdodau o fewn y Consortiwm yn cydnabod manteision gwaith Consortiwm ac maent i gyd yn ymroddedig i ddatblygu gwaith Consortiwm ymhellach. .
Beth yw Prosiect Creu'r Cysylltiadau?
Yn 2006, cyflwynodd y Consortiwm gais llwyddiannus am arian o Gronfa Gwella Creu'r Cysylltiadau Llywodraeth Cynulliad Cymru i archwilio'r potensial i ddatblygu gwaith Consortiwm ymhellach. Mae'r grant a dderbyniwyd yn ariannu Prosiect Creu'r Cysylltiadau. Gellir dod o hyd i grynodeb o gynnig y prosiect yn www.swamwac.org/cymraeg/connections/index.asp.
Beth yw deilliannau Prosiect Creu'r Cysylltiadau?
Bydd tri deilliant i'r prosiect
- Cynllun gweithredu sy'n rhoi meysydd gwaith ar gontinwwm gwaith y Consortiwm
- Datblygu strwythur i'r Consortiwm
- Datblygu cynllun rhoi ar waith
- Effeithlonrwydd drwy rannu costau ac osgoi dyblygu, gan gynnwys gwell cyflwyniad i'r gwasanaeth ac arbedion ariannol.
- Arloesi drwy ailddiffinio amrywiaeth y cyngor a'r gefnogaeth y mae eu hangen i godi safonau o ran cynnwys ac arbenigedd, datblygu methodoleg cyngor a chefnogaeth sy'n gallu cynnal yr agenda gwasanaethau plant, datblygu trefniadau newydd ar gyfer cyflwyno gwasanaethau, gan gynnwys swyddogaethau a rennir, swyddogaethau cydweithiol a swyddogaethau sy'n benodol i bob awdurdod, a datblygu comisiynu ar y cyd ar gyfer gwasanaethau sy'n benodol i bob awdurdod
- Partneriaeth drwy gynnwys darparwyr a phartneriaid addysg eraill, gan sefydlu rhwydweithiau priodol a hyblyg, bod yn ymatebol i ddefnyddwyr gwasanaeth drwy geisio'u barn, ac adlewyrchu'r cyd-destun a'r anghenion lleol.
- Gwella Ansawdd Parhaus drwy sefydlu'r model llywodraethu, proses adolygu a monitro gynhwysol, proses ar gyfer mesur effaith gwaith cydlynol gan ddefnyddio data meincnodi, gwasanaeth hyblyg sy'n ymateb i newid mewn ffordd gadarnhaol ac yn adlewyrchu anghenion y partneriaid
Sut bydd deilliannau Prosiect Creu'r Cysylltiadau'n cael eu cyflwyno?
I gyflwyno amcanion y Cynllun Gweithredu, bydd model a strwythur ar gyfer gwaith Consortiwm yn cael eu datblygu a fydd yn cyflawni sefydliad cymhwysol a hyblyg sy'n gallu ymateb i amgylchiadau newydd ac sy'n cefnogi'r canlyniadau gorau posib i'r holl blant a phobl ifanc.
Mae'r weledigaeth ar gyfer datblygu'r Consortiwm ymhellach yn golygu y bydd angen iddo sefydlu systemau a ffyrdd o weithio newydd, gan lynu ar yr un pryd at ethos pob awdurdod, gan hyrwyddo gwelliannau mewn safonau cyrhaeddiad a chyflawniad, gweithio ar y cyd, darparu cyd-gefnogaeth, adeiladu ar waith llwyddiannus yr awdurdodau unigol a sicrhau dwyieithrwydd.
Beth yw'r rhesymeg sy'n sail ar gyfer deilliannau arfaethedig y prosiect??
Mae Consortiwm De-Orllewin a Chanolbarth Cymru'n bwriadu llunio model trosglwyddadwy newydd fel rhan o ddiwygio ar dair lefel. Mae'r model hwn yn seiliedig ar egwyddor cydweithio agos (yn hytrach nag anfon gwaith allan yn fasnachol) i ymdrin â materion allweddol, noddi arloesedd a gwella effeithlonrwydd. Mae cyflawniadau'r Consortiwm hyd yn hyn yn awgrymu y gallai ddarparu model ar gyfer cydweithio rhanbarthol a gwaith partneriaeth sy'n cyfateb i gymeriad unigryw Polisi Addysg Cymru, ac y gellid ei gymhwyso ar draws y wlad.
Mae cyd-destun clir i'r ffordd rydym yn gweithredu. Bydd angen i waith y Consortiwm fod yn ymatebol i ddatblygiadau cyfredol a newydd, gan gynnwys yr amcanion a nodwyd yn 'Y Wlad sy'n Dysgu': Gweledigaeth ar Waith; y gofyniad am Gynllun Sengl i Blant a Phobl Ifanc; Codi Safonau a Gwella Ysgolion; Ar Draws Ffiniau (Adroddiad Beecham); Creu'r Cysylltiadau; Cyflwyno Gwell Gwasanaethau i Gymru; a'r Agenda Diwygio ar Dair Lefel. Mae mwy o wybodaeth am rhesymeg sy'n sail ar gyfer deilliannau arfaethedig y prosiect ar gael ar ddiwedd y ddogfen.
Beth yw gwaith Consortiwm?
Trefniant gweithio ar y cyd yw gwaith Consortiwm. Wrth i'r Consortiwm ddatblygu, mae wedi dod yn glir bod ffyrdd gwahanol o weithio ar y cyd yn bodoli. Rydym yn diffinio gwaith Consortiwm fel sefyllfa lle mae rhai gwasanaethau, neu'r gwasanaethau i gyd yn dod at ei gilydd mewn amrywiaeth o ffyrdd a lle mae pob awdurdod yn y Consortiwm yn cadw cyfrifoldeb am gyflwyniad a safonau statudol y gwasanaeth.
Mae gwaith y Consortiwm wedi'i bennu a'i gefnogi gan y chwe awdurdod. Mae cyfeiriad strategol gwaith y Consortiwm wedi'i bennu gan y Grwp Rheoli Strategol mewn ymgynghoriad â Grwp y Cyfarwyddwyr a Grwp Ffocws y Penaethiaid. Mae Grwpiau Gweithredol y Consortiwm yn gyfrifol am y gwaith gweithredol, gan adrodd i'r Grwp Strategol. Bydd gan bob awdurdod wasanaethau y mae'n eu cadw fel craidd a'r rheiny mae'n eu gweithredu drwy waith Consortiwm.
Mae datblygiad gwaith y Consortiwm wedi'i arwain gan fodel sy'n cynnwys ffurfiau gwahanol ar gydweithio, o rwydweithio i integreiddio llawn. Rydym yn credu nad oes un ffordd o weithio sy'n cyfateb i bob sefyllfa ac mae continwwm gwaith y Consortiwm yn darparu'r hyblygrwydd angenrheidiol i gynnwys amrywiaeth o sefyllfaoedd ac atebion.
Mae'r awdurdodau yn archwilio pob maes o gyflwyno'r gwasanaeth/swyddogaeth ac yn ystyried y cyfleoedd am waith Consortiwm a'r heriau maent yn eu hwynebu. Yna maent yn penderfynu pa ffordd, os o gwbl, yw'r ffordd fwyaf defnyddiol i gydweithio er mwyn i waith Consortiwm ychwanegu gwerth at waith pob awdurdod. Felly, mewn rhai ardaloedd mae lefel uchel o integreiddio'n darparu'r ffordd orau o sicrhau gwelliannau effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd tra bod rhwydweithio'n fwy effeithiol mewn ardaloedd eraill.
Beth yw'r polisi dwyieithog ar gyfer gwaith Consortiwm?
Mae Consortiwm De-orllewin a Chanolbarth Cymru wedi mabwysiadu'r egwyddor y bydd yn trin y Gymraeg a'r Saesneg ar sail gyfartal. Cymraeg a Saesneg fydd ieithoedd swyddogol y Consortiwm a bydd ganddynt yr un statws a'r un dilysrwydd yng ngwaith y Consortiwm. Mae'r Consortiwm yn cefnogi gweledigaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer 'Cymru sy'n wirioneddol ddwyieithog' a ddisgrifiwyd ganddi yn ei chynllun gweithredu 'Iaith Pawb' yn 2003.
Beth yw Continwwm Gwaith y Consortiwm?
Integreiddio:
Dyma ble mae gwaith Consortiwm yn cyflwyno gwasanaeth ar y cyd ar draws yr awdurdodau sy'n cyfranogi. Mae'r awdurdodau'n cronni cyllidebau ac adnoddau i ddarparu'r gwasanaeth
Cydweithio:
Dyma ble mae'r awdurdodau'n cydweithio ar fentrau penodol, gan rannu adnoddau a chyfrifoldebau, risgiau a gwobrau
Cydweithredu:
Dyma ble mae'r awdurdodau'n cydweithio i ddatrys problemau, dileu rhwystrau ac yn cynnig atebion
Cydlynu:
Dyma ble mae'r awdurdodau'n alinio polisïau a gweithdrefnau, ac yn datblygu ymagweddau cyson
Rhwydweithio:
Dyma ble mae'r awdurdodau'n rhannu gwybodaeth, yn trafod ymagweddau ac yn nodi arfer gorau. Maent hefyd yn meithrin ymddiriedaeth a pherthnasoedd proffesiynol cadarnhaol
Ar gyfer pob swyddogaeth, mae pawb sy'n ymwneud â gwaith Consortiwm, yn enwedig yn achos y Grwp Strategol, yn datblygu ffyrdd i arwain a rheoli pob un o'r ffurfiau gwahanol ar weithio ar y cyd yn fwy effeithlon ac yn effeithiol. Mae hyn yn rhan o strategaeth i lunio'r systemau, y sgiliau a'r gwerthoedd y mae eu hangen i lunio dyfodol gwaith y Consortiwm a throi gweledigaeth yn arfer. Mae gwaith Consortiwm yn darparu cyfle i'r awdurdodau gydweithio mewn ffordd flaengar.
Cliciwch i fwyhau’r eitem hon (bydd yn agor ffeil PDF).
Beth yw'r Cynllun Gweithredu?
Datblygwyd Cynllun Gweithredu fesul cam sy'n adlewyrchu continwwm gwaith y Consortiwm a'r themâu trosgynnol. Mae dwy ran i'r Cynllun Gweithredu, sef Cynllun Gweithredu Thematig a Chynllun Gweithredu Datblygiadol
Y Cynllun Gweithredu Thematig
Mae'r cynllun hwn yn crynhoi gwaith arfaethedig y Consortiwm ym mhob maes thematig dros y tair blynedd- Y Cynllun Gweithredu Datblygiadol
Mae hwn yn darparu dadansoddiad manwl o waith arfaethedig y Consortiwm dros gyfnod o dair blynedd. Blwyddyn 1 yw'r flwyddyn fwyaf manwl, a chydnabyddir bod Blwyddyn 2 a 3 yn dibynnu ar adolygiad o ddeilliannau'r blynyddoedd blaenorol a datblygiadau newydd.
Yn y Cynllun Gweithredu Datblygiadol, mae pob swyddogaeth y nodwyd ei bod yn addas ar gyfer gwaith Consortiwm wedi cael ei rhoi ar y lefel yn bernir ei bof yn fwyaf priodol yn y continwwm.
Beth yw'r Strwythur?
Mae dwy elfen allweddol i'r strwythur; y model llywodraethu a'r strwythur trefniadaeth a rheoli. Mae angen y ddwy elfen i alluogi cyflwyno gwaith Consortiwm effeithlon ac effeithiol a fydd yn cyflwyno'r canlyniadau a nodwyd yn y Cynllun Gweithredu.
Sut y datblygwyd y Cynllun Gweithredu a'r Strwythur?
Mae tri llinyn allweddol o waith datblygiadol wedi bod ar waith; Grwpiau Gweithredol y Consortiwm, ymchwil a gwaith Tîm y Prosiect a'r Grwp Strategol. Mae Grwpiau Gweithredol y Consortiwm (GGC), sy'n cynnwys gweithwyr proffesiynol yr awdurdod addysg lleol a phartneriaid yn gweithio o fewn maes gweithredol penodol ar sail un aelod o bob awdurdod lleol, wedi cwrdd i nodi'r swyddogaethau pennaf ar gyfer gwaith Consortiwm. Gellir dod o hyd i restr o grwpiau Gweithredol y Consortiwm yn www.swamwac.org/cymraeg/cog_index.asp. Mae ymchwil i safonau, meincnodi ac arfer gorau a gomisiynwyd neu a arweiniwyd gan Dîm y Prosiect wedi nodi swyddogaethau pellach a model llywodraethu ar gyfer gwaith y Consortiwm. Mae'r Grwp Strategol wedi nodi blaenoriaethu strategol allweddol ar gyfer gwaith y Consortiwm. Mae'r swyddogaethau a nodwyd wedi cael eu tynnu ynghyd i gynllun gweithredu datblygiadol gan Dîm y Prosiect a'u crynhoi yn y
Cynllun Gweithredu Thematig. Wedi'i hysbysu gan ymchwil berthnasol, datblygwyd y strwythur i gefnogi rhoi'r cynllun gweithredu hwn ar waith.
Beth yw themâu gwaith y Consortiwm?
Mae tair thema drosgynnol gwaith y Consortiwm yn ffurfio sail i'r
Cynllun Gweithredu Thematig, ac fe'u nodir yn y diagram isod.
Cliciwch i fwyhau’r eitem hon (bydd yn agor ffeil PDF).
Beth yw'r rhesymeg sy'n sail ar gyfer deilliannau arfaethedig y prosiect?
1. Agenda Ddiwygio ar Dair Lefe
Mae Consortiwm De-orllewin a Chanolbarth Cymru (swamwac) wedi datblygu dros y blynyddoedd diweddar wrth i'r awdurdodau lleol sy'n cyfranogi ynddo gydnabod ei gyfraniad posib wrth ymdrin â'r heriau maent yn eu hwynebu wrth ymateb i'r agenda gwleidyddol ehangach ac anghenion eu cymunedau lleol. Cafwyd symbyliad penodol wrth ddatblygu'r Consortiwm yn ystod y flwyddyn ddiwethaf drwy ariannu ychwanegol gan fenter 'Creu'r Cysylltiadau' y Cynulliad.
Yn gynyddol mae ysgolion yn y DU yn gyfrifol am eu gwelliant eu hunain. Yng Nghymru, fodd bynnag, cydnabyddir bod gwelliant o'r fath yn bartneriaeth rhwng yr ysgol a'r gymuned, drwy'r awdurdod lleol. Mae'r llywodraeth genedlaethol wedi pennu agenda glir yn 'Y Wlad sy'n Dysgu'. Dangoswyd bod effeithiolrwydd mentrau canolog yn cael eu gwella gan gyfryngiad awdurdodau lleol.
Her benodol yng Nghymru yw natur Llywodraeth y Cynulliad a'r gallu cyfyngedig i reoli newid helaeth. Mae hyn yn cymharu â chwmpas eang 'Y Wlad sy'n Dysgu'. Ar ben hynny, mae'r 22 awdurdod lleol eu hunain yn fach, gyda gallu cyfyngedig a thuedd i redeg gwasanaethau tebyg iawn sy'n gyfyngedig iawn o ran eu cwmpas. Serch hynny, mae'r awdurdodau bach hyn yn adnabod eu hysgolion yn dda, a gallant ymyrryd yn gyflym i gefnogi a chydlynu wrth gyflwyno blaenoriaethau y cytunwyd arnynt yn genedlaethol ac yn lleol pan fydd angen.
O safbwynt ariannol, mae'r pwyslais ym myd addysg yng Nghymru, fel meysydd gwasanaeth eraill, ar ddod o hyd i well gwerth drwy effeithlonrwydd. Mae Adroddiad Beecham (Ar Draws Ffiniau) wedi tynnu sylw at y risg y bydd adnoddau prin yn cael eu gwario ar haenau aneffeithlon o reolaeth a phrosesau aneffeithlon wrth i wasanaethau rheng flaen ddioddef. Mae'n rhaid dangos bod 'punt Cymru' yn ymestyn ymhellach. Fodd bynnag, ni ddylai hyn fod ar draul gallu strategol, ond dylai fod o ganlyniad i reolaeth strategol fwy effeithlon sydd wedi'i rhesymoli.
Yng Nghymru, mae Consortiwm De-orllewin a Chanolbarth Cymru yn ceisio llunio model trosglwyddadwy newydd i ddangos y posibilrwydd o ddiwygio ar dair lefel. Mae'r model hwn yn seiliedig ar egwyddor cydweithio agos (yn hytrach nag anfon gwaith allan yn fasnachol) i ymdrin â materion allweddol, noddi arloesedd a gwella effeithlonrwydd. Mae cyflawniadau'r Consortiwm hyd yn hyn yn awgrymu y gallai ddarparu model ar gyfer cydweithio rhanbarthol a gwaith partneriaeth sy'n cyfateb i gymeriad unigryw Polisi Addysg Cymru, ac y gellid ei gymhwyso ar draws y wlad. Bydd y datblygiad pellach hwn yn gofyn am gyfranogiad gweithredol awdurdodau partner ac ysgolion y Consortiwm ac yn wir, Llywodraeth y Cynulliad ei hun. Mae hefyd yn amlygu'r angen am gydlynu ymdrechion. Rydym yn gweithredu o fewn cyd-destun clir a ddisgrifir yn rhannol yn yr adrannau isod.
2. Y Wlad sy'n Dysgu 2: Gweledigaeth ar Waith
Y Wlad sy'n Dysgu 2: Lansiwyd Gweledigaeth ar Waith yn yr hydref yn 2006. Mae hyn yn hyrwyddo 'newid arloesol', gyda llawer eisoes ar waith. Ymhlith yr uchafbwyntiau perthnasol, mae:
- gwell darpariaeth blynyddoedd cynnar, gan gynnwys “Dechrau’n Deg”
- rhoi'r Cyfnod Sylfaen ar waith yn gyfan gwbl erbyn 2011
- datblygu cwricwlwm seiliedig ar sgiliau i blant 7-14 oed
- gwella'r trosglwyddiad o ysgolion cynradd i ysgolion uwchradd yn sylweddol
- pwyslais ar ymdrin â thangyflawniad o ganlyniad i anfantais gymdeithasol
- gwella stoc yr adeiladau ysgol
- hyrwyddo'r Gymraeg
- datblygu llwybrau ehangach i bob dysgwr 14-19 oed
- gwella ansawdd y dysgu mewn ysgolion a lleoliadau addysgol eraill
Yn benodol, mae'r ddogfen yn ceisio "annog awdurdodau lleol i gynyddu cydweithio i ddarparu gwasanaeth ymgynghori, gwella a chefnogi ysgolion ar gyfer gweithlu'r ysgolion." Bu modd eisoes i Gonsortiwm De-orllewin a Chanolbarth Cymru ddangos gwerth ychwanegol yn ei waith hyd yn hyn mewn nifer o'r meysydd hynny lle nododd dadansoddiad bod angen gwella, a bydd y rhain yn ffurfio craidd ei gynllun gweithredu arfaethedig. Fodd bynnag, mae lle i gynnwys lefel uwch o gynllunio strategol ar draws yr Awdurdodau. I gyflawni hyn, byddai angen i'r Consortiwm roi mewnbwn ar ddechrau'r cylchoedd cynllunio a meddu ar y gallu i fedru darparu gwasanaethau ar ran yr awdurdodau. Gall gallu o'r fath godi o ganlyniad i gronni adnoddau awdurdodau lleol neu grant gan Lywodraeth y Cynulliad yn unig.
3. Cynllun Sengl Cymru i Blant a Phobl Ifanc
Ar hyn o bryd mae awdurdodau lleol yng Nghymru yn wynebu'r her o gynhyrchu Cynllun Sengl i Blant. Mae rhai'n ailstrwythuro i Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Plant. O ran gwella ysgolion, mae hyn yn debygol o fod â goblygiadau penodol:
- ffocws cryfach ar gynnydd grwpiau penodol o ddisgyblion
- pwyslais ar gydweithio agosach rhwng grwpiau o weithwyr addysg proffesiynol a gweithwyr proffesiynol o feysydd eraill
- gallai ysgolion ffurfio rhan o ddarpariaeth ehangach o'r gwasanaethau sydd ar gael i gefnogi unigolion, teuluoedd a chymunedau sydd wedi'u lleoli mewn un safle neu fwy
- yn y dyfodol bydd ysgolion yn cydweithio mewn clystyrau
4. Codi safonau a gwella ysgolion
Mae codi safonau a gwella ysgolion yn dal yn flaenoriaeth i bob un o awdurdodau cyfansoddol y Consortiwm. Mae gwaith sydd eisoes wedi cael ei gyflawni gan y Consortiwm fel rhan o'i sylfaen o dystiolaeth wedi nodi'r meysydd hynny lle mae gwelliannau'n bosib. Mae'r gwaith eisoes wedi dangos gwahaniaeth rhwng y chwe awdurdod, sy'n nodi bod angen i bob awdurdod gynnal ffocws strategol clir ar ei ddatblygiad a'i anghenion ei hun. Mae dadansoddiad llawn o safonau cyflawniad disgyblion ac arolygiadau ysgolion wedi cael ei gyflawni ar draws y Consortiwm. Mae cydweithio ar draws y Consortiwm yn galluogi'r awdurdodau i ddadansoddi pa agweddau at wella ysgolion sy'n llwyddiannus, dysgu gan ei gilydd, rhannu arfer da, ystyried dulliau amgen o gyflwyno'r gwasanaeth a defnyddio arbenigedd ar draws ffiniau. Mae'r gwaith dadansoddi a gyflawnwyd gan y Consortiwm wedi'i gefnogi gan rai o'r argymhellion a wnaed ym mhapur trafod Estyn, 'Gweddnewid Ysgolion', a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2007.
5. Strwythurau traddodiadol a newydd
Yn y cyfnod ar ôl y rhyfel, roedd gwella ysgolion yn swyddogaeth i'r awdurdod lleol. Yn y 1990au, trosglwyddwyd y cyfrifoldeb yn gynyddol i'r ysgolion eu hunain, gyda her a chefnogaeth gan yr awdurdod lleol. Yng Nghymru, gwelwyd bod angen partneriaethau sy'n cynnwys ysgolion a phartneriaid eraill, a'r awdurdod lleol. Yn ymarferol, mae awdurdodau wedi cynnal timau o ymgynghorwyr â galluoedd amrywiol.
Wrth beri i 'bunt Cymru ymestyn ymhellach', yr ysgolion a'r timau ymgynghorol fydd â'r cyfrifoldeb pennaf dros ddatblygu ysgolion ac athrawon. Fodd bynnag mae hyn yn gofyn am lawer gan ysgolion, a bydd angen cefnogaeth craidd o ymgynghorwyr arnynt i gydlynu, sefydlu rhwydweithiau, monitro a gwerthuso effeithiolrwydd a sefydlu'r hyfforddi ym maes addysgeg cefnogi.
Mae diwygio ar dair lefel yn ymwneud â newid ar nifer o lefelau i alluogi ysgolion i ymateb yn fwy effeithiol i anghenion y plant a'r bobl ifanc maent yn eu gwasanaethu, a chyfrannu hefyd at agenda gwelliant a chynhwysiad ehangach ar gyfer eu cymunedau. Mae'r newidiadau hyn yn ymwneud â ffyrdd newydd o weithio a ffyrdd newydd o ddiffinio'r berthynas rhwng ysgolion, eu hawdurdodau a'u cymunedau. Mae swamwac yn wynebu heriau newydd yn y dyfodol agos wrth ddeall y newidiadau y mae angen eu gwneud a helpu i'w llunio ac wrth ddod o hyd i ffyrdd ymarferol o gyflwyno a chefnogi'r newidiadau hyn.
Nol i’r brig