Datblygiad Proffesiynol Parhaus ar gyfer Cynorthwywyr Addysgu
Mae staff cefnogi mewn ysgolion yn gwneud cyfraniad sylweddol at ddysg a chyflawniad disgyblion. Mae'r Cytundeb Cenedlaethol rhwng y llywodraeth, cyflogwyr ac undebau gweithlu'r ysgolion wedi creu'r amodau lle gall athrawon a staff cefnogi gydweithio'n fwy effeithiol fyth mewn timau proffesiynol.
Mae hyfforddiant proffesiynol athrawon, eu gwybodaeth a'u profiad yn eu paratoi i fod yn gyffredinol gyfrifol am ddysg y disgyblion. Y mae adegau, fodd bynnag, pan fyddant am dynnu ar gefnogaeth amrywiaeth eang o gydweithwyr, gan gynnwys cynorthwywyr addysgu. Mae gwaith y cynorthwywyr addysgu'n cyd-fynd ag eiddo'r athrawon, ac ni ellir cyfnewid y ddwy rôl.
Bydd darparu datblygiad proffesiynol parhaus ar gyfer cynorthwywyr addysgu yn eu galluogi i wneud cyfraniad mwy at godi safonau a gwella'r amrywiaeth o gefnogaeth sydd ar gael i athrawon ac ysgolion. Gall helpu i sicrhau bod cynorthwywyr addysgu'n medru gweithio'n effeithiol, datblygu fel unigolion a datblygu ysgolion fel cymunedau dysg.
Mae amrywiaeth o weithgareddau o fewn cylch gorchwyl datblygiad proffesiynol, gan gynnwys hyfforddiant a chefnogaeth. Un elfen o ddatblygiad proffesiynol parhaus yw fframwaith hyfforddi wedi'i achredu. Bydd fframwaith o'r fath yn helpu i sicrhau cynorthwywyr addysg, athrawon, cyflogwyr a rhieni ynghylch ansawdd y cyfraniad i ddysg y disgyblion y gellir disgwyl i gynorthwywyr addysgu ei wneud.
Mae cynorthwywyr addysgu'n gweithio mewn amrywiaeth o leoliadau gwahanol ac mae ganddynt rolau amrywiol. Yn y blynyddoedd diwethaf, bu cynnydd yn nifer y staff cefnogi sy'n gweithio mewn ysgolion yn ogystal ag amrywiaeth y rolau. Serch hynny, mae'r holl gynorthwywyr addysgu'n cyfrannu at y gweithgareddau dysgu yn y meysydd lle maent yn gweithio wrth weithio gydag athrawon fel rhan o'r tîm proffesiynol.
Bwriedir i'r fframwaith ar gyfer hyfforddiant ddarparu llwybr hyfforddiant hyblyg sy'n medru diwallu anghenion yr holl gynorthwywyr addysgu. Cydnabyddir amrywiaeth o lwybrau achredu sy'n cynnwys NVQ, OCN a CACHE.
