Consortiwm de Orllewin a Chanolbarth Cymru

[English]

Statws Cynorthwy-ydd Addysgu Lefel Uwch (CALU) yng Nghymru 2009 - 2010

Mae statws Cynorthwy-ydd Addysgu Lefel Uwch (CALU) yn darparu cyfle newydd, mawr ei groeso i gydnabod y lefelau gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth sydd gan lawer o staff cefnogi ysgolion a’r cyfraniad gwerthfawr maent yn ei wneud mewn ysgolion. Mae’n rhoi cyfle i ystod eang o staff cefnogi – er enghraifft, llyfrgellwyr, technegwyr, cynorthwywyr meithrinfeydd a chynorthwywyr addysgu eraill (CA) – gael dilyniant gyrfa pellach.

Y broses asesu

Bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn dyfarnu statws CALU drwy asesu yn unig. Bydd y rhaglen yn cael ei chynnal gan y pump Consortiwm ar rhan Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Cynhelir asesiad CALU gan Gonsortiwm De-orllewin a Chanolbarth Cymru ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru. Bydd lleoedd ar gael ar gyfer ymgeiswyr o bob un o Awdurdodau’r Consortiwm, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro, Powys ac Abertawe.

Sut i wneud cais

Ceir dau gam ar gyfer cael lle ar y rhaglen asesu. Yn gyntaf mae angen sicrhau eich bod yn cyflawni’r meini prawf hanfodol, a bydd angen i chi wneud hynny gyda’ch Pennaeth. Yn ail, bydd angen i chi gwblhau ffurflen gais a’i chyflwyno i’r cydlynydd consortiwm.

Cam 1

I gael eich ystyried rhaid eich bod yn gallu cyflawni’r meini prawf hanfodol

  1. Rydych yn gallu darparu tystiolaeth eich bod yn bodloni’r safonau diwygiedig CALU cyhoeddedig o’ch rôl fel cynorthwy-ydd addysgu dros y ddwy flynedd flaenorol.
  2. Rydych wedi cyflawni cymhwyster llythrennedd/Cymraeg iaith cyntaf neu Saesneg a mathemateg/rhifedd ar lefel 2 y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol (FfCC), cymhwyster sy'n cyfateb i TGAU A-C, neu’n uwch a bod gennych brawf a manylion y cymwysterau.
  3. Mae gennych gadarnhad a chefnogaeth eich pennaeth fel ymgeisydd ar gyfer statws HLTA.
  4. Rydych ar gael am 3 diwrnod o friffio ac asesiad hanner diwrnod rhwng Ionawr a Mehefin 2010.

Maen prawf pellach a fydd a allai gyfrannu at y broses ddethol yw

  1. Mae swydd fel HLTA ar gael yn eich ysgol o Fedi 2010.

Safonau diwygiedig ar gyfer statws CALU yng nghymru

Rheoliadau Addysg (Gwaith Penodedig a Chofrestru) (Cymru) 2004 a’r Safonau Proffesiynol (Diwygiedig) ar gyfer Cynorthwywyr Dysgu Lefel Uwch 644kb

Dylech lawrlwytho safonau diwygiedig CALU a’u hystyried gyda’ch pennaeth mewn perthynas â’ch rôl fel cynorthwydd addysgu.

Cam 2

Os ydych yn hapus eich bod yn cyflawni’r meini prawf hanfodol dylech lawrlwytho pecyn gais.

Pecyn Gais 2009/2010

Gofynion Llythrennedd a Rhifedd

Nodyn Briffio i Benaethiaid

Ffurflen Gais ar gyfer Ymgeiswyr CALU 09 - 10

Sir GaerfyrddinRosemarie Wallace (01269 595443)
rosemariewallace@carmarthenshire.gov.uk
CeredigionTom Fanning (01970 623497)
prif@cominscoch.ceredigion.sch.uk
Castell-nedd Port TalbotJen Malcolm (01639 763617)
j.malcolm@npt.gov.uk
Sir BenfroChris Cole (01646 602154)
chris.cole@pembrokeshire.gov.uk
PowysAnne Kenyon(01686 626395)
annek@powys.gov.uk
AbertaweSian Lewis (01792 636972)
eleanorsian.lewis@swansea.gov.uk
© 2005 Baglan IT Centre & 2007 2m Partnership Ltd