South West and Mid Wales Consortium

Rheoli Perfformiad Penaethiaid:
Cwestiynau Cyffredin

Beth sy'n digwydd yn achos ysgol nad yw'n gallu ffurfio is-grwp o 3 (mewn perthynas ag arfarnu'r Pennaeth neu apeliadau) sy'n addas i fod yn Llywodraethwyr cymwys?

Mae'n dibynnu ar beth yn union yw'r broblem yma. Dylai CLl gynnwys o leiaf 6/7 llywodraethwr na chawsant eu heithrio gan y rheoliadau a allai ffurfio'r is-grwp. Os oes gan y CLl nifer o leoedd gwag, mae'n debygol y byddai hyn yn achosi problemau iddynt mewn meysydd eraill hefyd, nid dim ond RhP. Os nad yw'r llywodraethwyr sydd ganddynt yn fodlon cyfranogi, gellir disgwyl y byddai camau'n cael eu cymryd yn lleol i annog cyfranogaeth.

Mae pennaeth lleol wedi gofyn a oes rhaid iddo lunio polisi RhP os yw'r llywodraethwyr yn gofyn iddo. Mae nodyn arweiniol 3 yn nodi y gall llywodraethwyr 'awdurdodi' a 'chyfarwyddo'r' pennaeth i ysgrifennu'r polisi. Rwyf wedi ceisio esbonio'r gwerth sydd i'r pennaeth ysgrifennu'r polisi, ond mae'n dymuno cael diffiniad clir. Oes rhaid iddo wneud hynny os gofynnir iddo?

Oes. Byddai'n rhaid i'r pennaeth wneud hynny os gofynnid iddo am fod geiriad y Rheoliadau'n nodi fel a ganlyn: 'Bydd y pennaeth yn llunio polisi RhP os cyfarwyddir ef i wneud hynny gan y corff llywodraethu.'

Oes unrhyw gynlluniau i ddarparu enghreifftiau i benaethiaid o'r amcanion ar gyfer penaethiaid ac athrawon dosbarth?

Nid oes gan Lywodraeth Cynulliad Cymru unrhyw gynlluniau i ddarparu enghreifftiau cenedlaethol o amcanion.

Unedau Cyfeirio Disgyblion - gofynnodd pennaeth gweithredol UCD pwy fydd yn gyfrifol am bennu ac adolygu ei dargedau. Does dim corff llywodraethu. Fe'i rheolir ef gan uwch swyddogion yr AALl. A fernir bod UCD yn lleoliad ansafonol? Mae'r staff sy'n gweithio yn yr UCD sydd wedi mynd trwy'r broses trothwy am wybod pwy fydd yn penderfynu eu symud o Raddfa Gyflog Uwch 1 i Raddfa Gyflog Uwch 2. Ai'r pennaeth fydd eu harweinydd tîm? A fydd y staff addysgu'n destun rheoliadau RhP? Os na, beth am faterion Graddfa Gyflog Uwch ar gyfer staff addysgu mewn lleoliadau ansafonol?

Nid yw Unedau Cyfeirio Disgyblion yn cael eu cynnwys yn y rheoliadau hyn a does dim byd yn y ddeddfwriaeth gyflogau i ddweud bod symud ar y raddfa gyflog uwch yn dibynnu ar arfarniad RhP.

Disgwylir i Lywodraeth Cynulliad Cymru gyhoeddi arweiniad arfer gorau i athrawon mewn lleoliadau ansafonol yn Nhymor y Gwanwyn 2005.

Beth sy'n digwydd os bydd corff llywodraethu'n gwrthod hyfforddi neb? Rwyf wedi derbyn llythyr oddi wrth un corff llywodraethu sy'n nodi nad oes neb yn fodlon ymgymryd â'r baich ychwanegol.

Disgwylir y bydd yr AALl yn annog y CLl i fynychu'r hyfforddiant am fod gan y CLl ddyletswydd statudol i sefydlu polisi RhP yn yr ysgol ac adolygu perfformiad y pennaeth - mae angen pwysleisio bod yr hyfforddiant er eu lles hwy. Ond, os nad ydynt yn fodlon mynychu'r hyfforddiant, ni ellir eu gorfodi i wneud hynny.

A allech chi gadarnhau nad yw Meithrinfeydd yn rhan o'r rheoliadau RhP ar hyn o bryd?

Rwy'n cadarnhau nad yw ysgolion meithrin yn cael eu cynnwys yn y rheoliadau RhP.

Disgwylir i Lywodraeth Cynulliad Cymru gyhoeddi arweiniad arfer gorau i athrawon mewn lleoliadau ansafonol yn Nhymor y Gwanwyn 2005.

Mae'r CLl wedi pennu amcanion perfformiad ar gyfer penaethiaid a dirprwyon at ddibenion cyflogau. Dan RP mae'r pennaeth yn pennu'r amcanion ar gyfer dirprwyon, felly pwy sy'n pwyso a mesur yr amcanion ac yn gwneud argymhellion ar gyfer y dirprwy bennaeth at ddibenion cyflog? Pennwyd amcanion perfformiad cyflog ar gyfer y penaethiaid a'r dirprwyon. Oes rhaid i'r rhain gael eu hadolygu gan yr ymgynghorydd allanol? Deall nad yw YA yn gwneud argymhellion ar gyfer cyflogau ond mae angen egluro'r broses o adolygu'r amcanion. Mae angen i GCC wneud datganiadau clir am y cysylltiadau rhwng RhP a chyflogau, yn enwedig ar gyfer penaethiaid a dirprwyon.

Y prif bwynt i'w gofio mewn perthynas â'r cysylltiad rhwng rheoli perfformiad a chyflogau yw eu bod yn amodol ar ddau ofyniad deddfwriaethol gwahanol - ac er bod y Cynulliad yn gyfrifol am reoli perfformiad, nid yw cyflogau athrawon wedi'u datganoli ac felly maen nhw'n dal i fod yn gyfrifoldeb yr Adran Addysg a Sgiliau ar gyfer Cymru yn ogystal â Lloegr. Golyga hyn bod mater cyfan adolygu perfformiad dirprwyon at ddibenion cyflogau yn berthnasol i arweiniad cyflogau'r Adran Addysg a Sgiliau sy'n cael ei gyhoeddi'n flynyddol i bob ysgol yng Nghymru. (Dog. 78)

Oes gan LCC enghreifftiau o amcanion a fyddai'n addas i Benaethiaid a Dirprwy Benaethiaid ar gyfer defnydd cyson yng Nghymru gyfan?

Roedd y fframwaith cychwynnol yn cynnwys enghreifftiau ond dilëwyd y rhain o ganlyniad i wrthwynebiadau gan yr Undeb a'r grwp Ôl-16. Nid yw LlCC yn barnu ei bod yn ymarferol darparu amcanion ar yr adeg hon am fod y broses o bennu amcanion yn hollbwysig ac mae angen i YA a llywodraethwyr fynd i'r afael â meini prawf penodol wrth wneud hynny.

A allwch chi gadarnhau bod y cyfarfod rhagarweiniol gyda'r ymgynghorydd allanol a'r llywodraethwyr penodedig yn ddewisol?

Mae Rheoliad 12 yn Rheoliadau Arfarnu Ysgolion 2002 yn nodi 'cyn neu ar ddechrau'r gylchred arfarnu, mae'n rhaid i'r holl arfarnwyr, yr ymgynghorydd allanol a'r pennaeth gwrdd i gynllunio a pharatoi ar gyfer yr arfarniad a cheisio cytuno ar amcanion ...'. Yn yr un modd, mae Rheoliad 15 yn nodi'r gofynion i'r cyfarfod adolygu perfformiad yn ffurfiol ar ddiwedd y gylchred arfarnu. Nid yw'r Rheoliadau eu hunain yn crybwyll cyngyfarfod er bod yr arweiniad yn caniatáu i'r YA gynnig cyfarfod cyn-arolwg i'r Pennaeth a'r Llywodraethwyr. Mae'r nodiadau arweiniol ar gyfer YA yn nodi nad oes rhaid i Lywodraethwyr gynnal cyfarfod rhagarweiniol.

A allaf gael diffiniad o grynodeb yn Rheoliad 17(2) yn y Rheoliadau Arfarnu?

Ym marn LlCC, nad yw'n ddehongliad cyfreithiol, mae'r Rheoliad yn caniatáu i'r AALl ofyn am 'grynodeb' o'r datganiad arfarnu at ddiben camau gweithredu perfformiad a/neu ddisgyblu posib dan Ddeddf Fframwaith a Safonau Ysgolion 1998. Nid yw'n ofynnol i'r Corff Llywodraethu gyflwyno'r datganiad arfarnu cyfan ond bydd angen i'r Cadeirydd bennu'r hyn sy'n wybodaeth berthnasol a chrynhoi'r prif bwyntiau a godwyd yn yr adolygiad os gofynnir iddo/iddi wneud hynny gan y CEO.

Pam byddai'r CEO/AALl am gael copi o adolygiad perfformiad Pennaeth?

Ni fyddai'r AALl yn derbyn copi o ddatganiad arfarniad Pennaeth yn awtomatig, ond mae'r Rheoliadau'n caniatáu i CEO neu unrhyw swyddog a ddynodwyd yn benodol i fod yn gyfrifol am gynghori neu wneud penderfyniadau mewn perthynas â pherfformiad pennaeth yn unol â pharagraff 23 atodlen 16 a pharagraff 22 atodlen 17 Deddf Fframwaith a Safonau Ysgolion 1998 (er bod hyn yn 1988 ac yn dal i fod yn berthnasol), ofyn am gopi ohono. Mae'r paragraffau hyn yn y Ddeddf yn ymwneud yn benodol â materion disgyblu a pherfformiad.

Mae arweiniad yr NUT yn nodi y dylid pennu 2 amcan ar gyfer athrawon a phenaethiaid. Nid yw hyn yn dilyn arweiniad LlCC, sy'n nodi lleiafswm o 3 a mwyafswm o 6. Mae cyngor yr NUT yn achosi pryder i rai penaethiaid sy'n ceisio sicrhau agwedd/polisi cadarnhaol tuag at RP. Beth fydd yn digwydd i ysgol sy'n pennu 2 amcan yn unig? A ydynt yn torri'r gyfraith?

Nid yw Rheoliadau Arfarnu Athrawon Ysgol (Cymru) 2002 yn nodi gofyniad ar gyfer gosod nifer penodol o amcanion, ond o ran athrawon a phenaethiaid mae'r Rheoliadau'n nodi - bod yn rhaid iddynt gynllunio a pharatoi ar gyfer yr arfarniad a cheisio cytuno ar amcanion y mae'n rhaid iddynt ymwneud ag: a) arweinyddiaeth a rheolaeth ysgol (gofyniad ar gyfer penaethiaid, o ran athrawon golyga hyn ddatblygu a gwella arfer proffesiynol yr athro/athrawes ysgol); a b) cynnydd disgyblion. Mae Rheoliadau 12(1) a 26(1) yn cyfeirio at hyn. Mae nodiadau arweiniol LlCC yn nodi y bydd cyfanswm nifer yr amcanion y cytunir arnynt yn dibynnu ar amgylchiadau'r ysgol ond byddai arfer da yn awgrymu y dylai fod o leiaf 3 a dim mwy na 6 mewn unrhyw un gylchred arfarnu. Mae'r cyngor hwn yn dal i fod yn berthnasol. Mae'n werth nodi hefyd bod y Rheoliadau'n caniatáu i'r arfarnwyr bennu amcanion os na ellir cytuno arnynt, er na ddisgwylir y byddai angen gwneud hyn yn y mwyafrif helaeth o achosion oherwydd bydd yr amcanion yn cael eu cytuno ar y cyd. Mae'n ymddangos hefyd bod y Rheoliadau'n caniatáu ar gyfer diwygio'r amcanion unrhyw bryd yn ystod y gylchred arfarnu os yw pawb yn cytuno.

A wnewch chi egluro'r eithriadau swyddogol i RP? Mae'n ymddangos bod rheoliadau'r Adran Addysg a Sgiliau'n wahanol iawn i reoliadau Cymru.

Yn Lloegr, cyflwynwyd y trefniadau rheoli perfformiad ar gyfer athrawon o fis Medi 2000 yn rhinwedd Rheoliadau Addysg (Arfarnu Athrawon Ysgol) 2000. Roedd y trefniadau rheoli perfformiad a ddisgrifiwyd ynddynt yn berthnasol i'r holl athrawon a gyflogwyd mewn un neu ddwy ysgol gan awdurdod addysg lleol, neu gan gorff llywodraethu ysgol sefydledig, ysgol a gynorthwyir yn wirfoddol neu ysgol arbennig sefydledig, am flwyddyn o leiaf. Estynnwyd cwmpas rheoli perfformiad yn Lloegr gan Reoliadau Addysg (Arfarnu Athrawon Ysgol) (Lloegr) 2001 a oedd yn diddymu ac yn disodli'r rheoliadau blaenorol. Roedd y rheoliadau diwygiedig hyn yn estyn cwmpas y trefniadau rheoli perfformiad yn Lloegr o fis Medi 2001 i ddarparu'n ychwanegol ar gyfer arfarnu perfformiad athrawon heb eu cymhwyso a'r rheiny a gyflogwyd ar gontractau cyfnod penodol am lai na blwyddyn, a gyflogwyd mewn un ysgol neu fwy, ac athrawon a gyflogwyd gan yr awdurdod addysg lleol mewn unedau cyfeirio disgyblion, ysgolion meithrin heb bwyllgor rheoli neu'r rheiny nad ydynt yn gysylltiedig ag ysgol benodol.

Mae'r rheoliadau yng Nghymru (Rheoliadau (Arfarnu Athrawon Ysgol) (Cymru) 2002) yn darparu ar gyfer arfarnu perfformiad athrawon ysgol (gan gynnwys athrawon heb eu cymhwyso) sy'n:

ac eithrio yr athrawon hynny a gyflogir dan gontract cyflogaeth cyfnod penodol am lai na blwyddyn. Mewn geiriau eraill, mae ein rheoliadau'n cyd-fynd â rheoliadau gwreiddiol Lloegr. Disgwylir i Lywodraeth Cynulliad Cymru gyhoeddi arweiniad arfer gorau i athrawon mewn lleoliadau ansafonol yn yr haf.

A ellir cael bwlch rhwng cylchred y flwyddyn gyntaf a'r ail?

Sylwer ar y darn canlynol o'r rheoliadau sydd, yn fy marn i, yn hunanesboniadol:

Rheoliadau Arfarnu Athrawon Ysgol (Cymru) 2002 8. - (1) Yn amodol ar ddarpariaethau canlynol y rheoliad hwn, a rheoliad 9, mae'n rhaid i'r corff llywodraethu bennu amseriad y gylchred arfarnu ar gyfer pennaeth yr ysgol.

(2) Ac eithrio'r hyn y darperir ar ei gyfer ym mharagraff (3) a rheoliad 9(3), bydd cylchred arfarnu yn para am flwyddyn.

(3) Yn achos y gylchred arfarnu gyntaf dan y Rheoliadau hyn ar gyfer pennaeth yn ei swydd ar y dyddiad y mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym, gall y corff llywodraethu bennu bod hyd y gylchred arfarnu honno'n gyfnod heblaw am flwyddyn cyn belled ag nad yw'n dod i ben cyn 30ain Tachwedd 2003 a heb fod yn hwyrach na 31ain Hydref 2004.

(4) Unwaith byddant yn dechrau, bydd cylchredau arfarnu ar gyfer pob pennaeth yn barhaus.

(5) Ni fydd penodi arfarnwr neu ymgynghorydd allanol newydd yn peri i gylchred arfarnu pennaeth ddechrau o'r newydd.

22. - (1) Yn amodol ar ddarpariaethau canlynol y rheoliad hwn, a rheoliad 23, mae'n rhaid i'r pennaeth bennu amseriad y gylchred arfarnu ar gyfer pob athro/athrawes yn yr ysgol.

(2) Ac eithrio'r hyn y darperir ar ei gyfer ym mharagraffau (3) a (4) a rheoliad 23(3), bydd cylchred arfarnu'n para am flwyddyn.

(3) Yn achos y gylchred arfarnu gyntaf dan y Rheoliadau hyn ar gyfer athro/athrawes ysgol yn ei swydd ar y dyddiad y mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym, gall y pennaeth bennu bod y gylchred arfarnu honno'n gyfnod heblaw am flwyddyn cyn belled ag nad yw'n dod i ben cyn 30ain Tachwedd 2003 a heb fod yn hwyrach na 31ain Hydref 2004.

(4) Yn achos y gylchred arfarnu gyntaf dan y Rheoliadau hyn ar gyfer athro/athrawes ysgol nad yw yn ei swydd ar y dyddiad y mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym, gall y pennaeth bennu bod y gylchred yn para am gyfnod o lai na blwyddyn.

(5) Unwaith byddant yn dechrau, bydd cylchredau arfarnu ar gyfer pob athro/athrawes ysgol yn barhaus.

(6) Ni fydd penodi arfarnwr newydd yn peri i gylchred arfarnu athro/athrawes ysgol ddechrau o'r newydd. (Dog. 102)

Mae dwy ysgol yn cael eu cyfuno a bydd pennaeth presennol un ohonynt yn cymryd drosodd ym mis Ionawr. Gofynnodd ef i'r YA ohirio'r ymweliad hyd nes bod ganddo gorff llywodraethu yn ei le (hoffai gael amser i roi trefn ar bethau ond mae hynny'n mynd â phethau'n rhy bell - gallai ei amcanion gynnwys sefydlu pethau). Rwyf hefyd yn holi ynglyn â statws yr ysgolion gyda'r AALl.

Rwy'n cytuno â chi. Mae'r Rheoliadau'n caniatáu i'r amcanion gael eu hadolygu yn ystod y flwyddyn cyn belled ag y bo'r arfarnwr (y CLl newydd) a'r pennaeth yn cytuno. Does dim rheswm dros oedi o ran pennu amcanion - mae'r dyddiad yn rhan o'r ddeddf.

Mae gennyf ddwy ysgol ar wahân gyda dau gorff llywodraethu sy'n cael eu rhedeg gan yr un pennaeth. Rwyf wedi neilltuo'r un YA ar gyfer y ddwy ysgol. Beth yw eich cyngor chi mewn perthynas â phennu amcanion? Dau gyfarfod? Dwy set o amcanion i gynnwys Arweinyddiaeth a Rheolaeth a Chynnydd Disgyblion? Oes unrhyw le ar gyfer hyblygrwydd o unrhyw fath? Nid yw'n broblem i ni, dim ond sefyllfa ddiddorol.

Nid yw'r Rheoliadau'n cynnwys y sefyllfa hon. Am fod dau gorff llywodraethu ac o bosib dwy ysgol gwbl wahanol gyda gwahanol gefndiroedd etc., byddai'n ymddangos yn angenrheidiol ac yn briodol i gael dwy set o amcanion y mae'n rhaid iddynt gynnwys arweinyddiaeth a chynnydd disgyblion. Byddai neilltuo'r un YA yn ymddangos fel petai'n syniad da oherwydd byddech yn sicrhau parhad o ran unrhyw themâu datblygiadol trawstoriadol.

Mae'r pennaeth ar absenoldeb salwch. Mae sïon o anfodlonrwydd ynglyn â'i berfformiad (a'i bresenoldeb) ymhlith y corff llywodraethu - nid wyf yn ymwybodol o unrhyw drafodaethau ffurfiol yn ei gylch ond rwyf yn cyfeirio at yr AALl. Dyrchafwyd athro yn ei le (fel arfer am ei fod wedi bod yn absennol am gyfnod tymor hir tua 3 gwaith). Cyngor?

Gweler Rheoliad 9(2) - y gylchred arfarnu ar gyfer y pennaeth gweithredol i'w phennu o'r newydd gan y CLl.

A all Llywodraethwyr benderfynu cynnwys adolygiadau fel rhan o'r meini prawf ar gyfer adleoli?

Nid wyf yn hollol siwr beth a olygir gan 'feini prawf ar gyfer adleoli' a defnydd arfaethedig yr adolygiad RhP, ond serch hynny mae Rheoliadau 17 ac 18 yn darparu ar gyfer datgelu, cadw a defnyddio datganiadau arfarnu. Mae'n rhaid i rai pobl dderbyn copïau (y pennaeth a chadeirydd y llywodraethwyr - yr olaf mewn perthynas â gwneud penderfyniadau ynglyn â dyrchafiadau neu gyflogau. (Rhan 2 dog. 6)

Cynhaliwyd arfarniad gydag un llywodraethwr yn unig yn bresennol. Ydy hyn yn dderbyniol neu a fydd yn rhaid cynnal yr arfarniad eto?

Yn fy marn i, dylai'r arfarniad gael ei ailadrodd gan sicrhau bod o leiaf 2 lywodraethwr yn bresennol. Fy rheswm dros ddweud hyn yw bod Rheoliad 7 (1) yn nodi bod "Rhaid i gorff llywodraethu ysgol benodi dau neu dri llywodraethwr i arfarnu pennaeth, ..." Rwyf hefyd yn ymwybodol o un arfarniad o leiaf a ganslwyd oherwydd mai dim ond un llywodraethwr oedd yn bresennol pan gyrhaeddodd yr YA.

Pa ofynion perfformiad sy'n bodoli ar gyfer penaethiaid/athrawon a gyflogir dan gontract cyfnod penodol am lai na blwyddyn?

Mae'r gofynion statudol yn pennu a oes angen cylchred (arfarnu) rheoli perfformiad ar gyfer athro/athrawes benodol. Mae Rheoliadau Arfarnu Athrawon Ysgol (Cymru) 2002 yn darparu ar gyfer arfarnu perfformiad athrawon ysgol a gyflogir mewn un neu ddwy ysgol, yn hytrach nag athrawon a gyflogir dan gontract cyfnod penodol am lai na blwyddyn. Mae'n bosib y bydd rhai pobl wedi ystyried y rheoliadau hynny yn unig ac wedi dod i'r casgliad nad yw'r eithriad ar gyfer athrawon a gyflogir dan gontract cyfnod penodol am lai na blwyddyn yn berthnasol i benaethiaid. Mae'n bosib bod hyn oherwydd nad yw rheoliad 3(1), wrth ddiffinio "athro/athrawes ysgol" i nodi bod hyn yn cael ei gynnwys, yn cyfeirio'n benodol at bennaeth. Ond, yn ein barn ni, nid yw hyn yn wir am fod angen ystyried y pwerau statudol ehangach. Gwnaed Rheoliadau 2002 dan bwerau sydd wedi'u cynnwys yn adrannau 49 a 63(3) Deddf Addysg (Rhif 2) 1986. Mae'r pwer yn adran 49 Deddf 1986 yn berthnasol i "athrawon", y mae'n rhaid ei bod yn cynnwys penaethiaid ac athrawon eraill - felly mae'r cyfeiriad at "athrawon" yn y diffiniad o "athrawon ysgol" yn cynnwys y ddau. Nid yw'r diffiniad o athro/athrawes ysgol yn eithrio penaethiaid, felly bydd yn cynnwys unrhyw fath o athro/athrawes; math penodol o "athro/athrawes ysgol" yw pennaeth. Ar y sail hon, nid yw Rheoliadau 2002 yn berthnasol i unrhyw athro/athrawes a gyflogir dan gontract cyfnod penodol am lai na blwyddyn, gan gynnwys penaethiaid. Cyhoeddir arweiniad arfer gorau ar gyfer "athrawon" a gyflogir dan gontract cyfnod penodol am lai na blwyddyn yn yr haf.

A ddylai'r holl lywodraethwyr gael copi o'r datganiad arfarnu?

Mae adran 17 y Rheoliadau'n cynghori ynglyn â phwy a all weld yr arfarniad. Yn sylfaenol, bydd cadeirydd y corff llywodraethu'n cael copi ohono a gall y llywodraethwyr sy'n gyfrifol am ddyrchafu athrawon ysgol neu faterion cyflog ofyn am gopi hefyd. Ni ddylid rhoi copi o'r arfarniad i bob llywodraethwr.

Polisi Rheoli Perfformiad

Y Gofyniad Statudol
Nodir y gofyniad statudol i GLl gael polisi rheoli perfformiad ar waith yn Rheoliadau Rheolaeth Ysgolion (Cylch Gorchwyl) (Diwygiad) (Cymru) 2002. Trwy Reoliad 10 (1), gosodwyd dyletswydd ar y corff llywodraethu i sefydlu polisi ysgrifenedig (y polisi rheoli perfformiad) erbyn 30 Tachwedd 2002 fan bellaf. Mae'n rhaid i'r polisi nodi sut bydd y system arfarnu athrawon ysgol yn cael ei rhoi ar waith yn yr ysgol. Gall y corff llywodraethu gyfarwyddo'r pennaeth i lunio'r polisi, a phan fydd wedi cael ei ddrafftio, gallant wrthod, dderbyn neu addasu'r polisi hyd y gwelant yn dda. Mae'n rhaid adolygu'r Polisi'n flynyddol.

Ymgynghori
Mae Rheoliad 10 (7) yr uchod yn nodi.... 'cyn sefydlu'r Polisi Rheoli Perfformiad yn unol ag (1), neu ei addasu yn unol â pharagraff (6), bydd y corff llywodraethu'n sicrhau ei fod yn ymgynghori â'r holl athrawon ysgol yn yr ysgol.' Mae Rheoliad 10 (8) yn mynd ymhellach i ddweud.... 'os bydd y corff llywodraethu'n ei (ch)gyfarwyddo i wneud hynny, bydd y pennaeth yn ymgynghori â'r holl athrawon ysgol eraill yn yr ysgol ynglyn â llunio Polisi RhP neu addasu'r Polisi RhP.

Archwilio
Mae'n ofynnol i'r corff llywodraethu sicrhau bod copi o'r Polisi Rheoli Perfformiad ar gael i'w archwilio yn yr ysgol unrhyw bryd gan:
a) unrhyw athro/athrawes ysgol a gyflogir yn yr ysgol
b) unrhyw berson sy'n ymwneud ag arolygu gweithrediad y system arfarnu athrawon ysgol
c) unrhyw arfarnwr a benodwyd yn unol â'r Rheoliadau Arfarnu

Fel y gwyddoch, ni allaf ddarparu dehongliad cyfreithiol pendant o'r Rheoliadau, ond yn fy marn i, nid yw'n ymddangos bod dyletswydd statudol ar y CLl na'r ysgol (P) i ymgynghori'n ehangach na staff addysgu'r ysgol mewn perthynas â llunio'r polisi RhP a'i roi ar waith. Rwyf wedi edrych ar y nodiadau arweiniol a'r Rheoliadau Arfarnu hefyd sy'n ymddangos fel petaent yn cefnogi'r safbwynt hwn.