South West and Mid Wales Consortium

[English]

Cymunedau Dysgu Proffesiynol

Gweithgaredd Cyfredol

"Sefydlir Cymuned Ddysgu Broffesiynol (PLC) pan mae grwp o weithwyr proffesiynol yn cydweithredu ac yn ymchwilio i wella deilliannau ar gyfer dysgwyr. Maent yn cymryd rhan yn y broses benderfynu; maent yn treialu ac yn mireinio strategaethau gwella newydd ac maent yn atebol ac yn gyfrifol am ddeilliannau eu gwaith ar y cyd. Gellir crynhoi nod terfynol PLC mewn pedwar gair: gwell deilliannau i ddysgwyr."
(Alma Harris a Michelle Jones, 2010)

Gellir defnyddio Cymunedau Dysgu Proffesiynol fel strategaeth gwella ysgolion i sicrhau lefel uwch o gyflawni a gwell cyraeddiadau drwy athrawon yn cydweithredu mewn a rhwng ysgolion. Mae gan Gymuned Ddysgu Broffesiynol effeithiol y gallu i hyrwyddo a chynnal dysgu'r holl weithwyr proffesiynol yng nghymuned yr ysgol, gyda'r nod a rennir o wella dysgu disgyblion.

Drwy weithio mewn partneriaeth, mae awdurdodau swamwac yn datblygu deunyddiau i gynorthwyo ysgolion i sefydlu Cymunedau Dysgu Proffesiynol effeithiol a gwerthuso eu heffaith.

Dolenni Allweddol

Cydnabyddiaeth

Hoffai swamwac ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y datblygiadau hyn.