South West and Mid Wales Consortium

Cyfyngiad o 38 awr ar gyflenwi

Gosododd y Cytundeb Cenedlaethol gyfyngiad cyfreithiol o 38 awr ar yr amser cyflenwi y gellir gofyn i athrawon ei wneud dros gydweithwyr absennol. Daeth y cyfyngiad hwn i rym fis Medi 2004. Mae'r Cytundeb Cenedlaethol hefyd yn nodi'r amcan tymor hwy na ddylid gofyn i athrawon gyflenwi'n aml.

Mae ysgolion gyda chyflenwadau athrawon isel neu ddim o gwbl yn dweud bod ganddynt staff hapusach sy'n addysgu gwersi gwell.

Fe dderbynnir gan bawb nad yw cyflenwi am gydweithwyr absennol yn ffordd dda i athro/athrawes dreulio amser, ond pam? Mae cael cais i gyflenwi'n gallu cael effaith negyddol ar yr amser sydd gan athrawon er mwyn cynllunio gwersi.

Mae polisi sicrwydd newydd yn effeithio ar fwy nag athrawon. Mae staff cefnogi wedi'u hyfforddi, eu cefnogi a'u goruchwylio'n iawn yn ganolog i'r strategaethau newydd y mae ysgolion yn eu defnyddio.

P'un a yw hynny am eu bod yn cael eu dysgu gan athrawon mwy brwd, neu am fod gwersi cyflenwi'n cael eu goruchwylio gan aelodau o staff yr ysgol sy'n adnabyddus ac yn uchel eu parch, mae disgyblion hefyd yn elwa. Mae cylch rhinweddol yn cael ei greu - mae cyflenwi'n fater o safonau.

Mae'r Cytundeb Cenedlaethol yn nodi'r amcan tymor hwy na ddylid gofyn i athrawon gyflenwi'n aml.

<< blaenorol    nesaf >>