South West and Mid Wales Consortium

Cwetsiynau gan Benaethiaid

Ydy ailfodelu yn golygu rhoi'r Cytundeb Cenedlaethol ar waith?

Mae'r Cytundeb Gweithluoedd Cenedlaethol yn rhan allweddol o'r agenda ailfodelu. Bydd yn yrrwr am newid ac yn gosod y cyd-destun ar gyfer yr agenda ehangach drwy roi pwyslais ar athrawon i fod yn rhydd i ganolbwyntio ar ddysgu ac addysgu, a chael gwared ar weithgareddau sy'n cymryd llawer o amser sy'n gwrthdynnu gweithwyr proffesiynol medrus o'r diben hollbwysig hyn. Felly mae'r Cytundeb Cenedlaethol yn fan cychwyn hollbwysig mewn proses ailfodelu parhaus sy'n datblygu. Bydd y TAC yn cynorthwyo ysgolion i wella eu gallu i reoli newid, rhannu gwneud penderfyniadau a manteisio ar y defnydd o adnoddau, gan gynnwys TGCh.

Beth yw'r negeseuon allweddol sydd wedi dod allan o flwyddyn gyntaf y rhaglen ailfodelu?

O bosibl y canlyniad mwyaf arwyddocaol yn yr ysgolion Arloesi a Mabwysiadu Cynnar oedd rhyddhau egni a brwdfrydedd ar gyfer yr agenda ailfodelu. Roedd holl aelodau pob gweithlu ysgol yn gallu cyfrannu at y broses gwneud penderfyniadau. Bu pob ysgol yn archwilio'u harfer eu hunain gan ddyfeisio eu hatebion eu hunan i'r materion ynghylch baich gwaith athrawon. Anogwyd “meddwl unigryw”, a arweiniodd at rai awgrymiadau arloesol o'r gymuned ysgol gyfan.

Fel rhan o'n strategaeth CAP, rydym wedi amserlennu grwpiau dosbarth cyfan sy'n cael eu harwain gan staff cefnogi sy'n gweithio i safon Cynorthwy-ydd Addysgu Lefel Uwch. Os bydd yr aelod hwn o staff yn absennol, sut rydym yn llenwi ei absenoldeb/ei habsenoldeb?

Yn y bôn, dylid mynd i'r afael ag absenoldeb aelod o'r staff cefnogi, sydd wedi'i amserlennu i gyflawni gwaith penodol i ddosbarth cyfan, yn yr un modd ag athro/athrawes absennol yn yr ysgol. Os bydd ysgol yn defnyddio ei staff cefnogi yn y modd hwn wedyn dylai eu polisi cyflenwi rhagweld ymateb priodol i absenoldeb yr aelod hwnnw o staff. Os bydd athro/athrawes yn cyflenwi ar gyfer absenoldeb HLTA brys, byddai hyn yn cyfrif tuag at y cyfyngiad 38 awr ar gyfer yr athro hwnnw/athrawes honno. Mae'n rhaid i athrawon sydd ag amser PPA wedi'i amserlennu BEIDIO â chael eu defnyddio i gyflenwi o dan yr amgylchiadau hyn, neu unrhyw amgylchiadau eraill.

Rhagwelodd y Cytundeb Cenedlaethol ac ailfodelu'r gweithlu rôl well i staff cefnogi mewn ysgolion. Os gwelir staff cefnogi'n arwain grwpiau dosbarth cyfan yn ystod archwiliad Ofsted/ESTYN, a fydd hyn yn cael effaith negyddol ar eu hadroddiad?

Mae Ofsted yn fwyfwy ymwybodol o'r agenda ailfodelu ac wedi dechrau adrodd yn ffafriol ar ysgolion ailfodelu. Wrth ddefnyddio staff cefnogi mewn rolau sy'n cynnwys darparu gwaith penodol, bydd yn rhaid i benaethiaid ystyried y safonau a gyhoeddwyd ar gyfer Cynorthwywyr Dysgu Lefel Uwch. Mae rôl well i staff cefnogi'n cael ei llunio i gefnogi gwaith athrawon a dysgu disgyblion - bydd staff cefnogi sydd wedi'u hyfforddi a'u defnyddio'n briodol yn rhan o ymdrech yr ysgolion i godi safonau. Defnyddir yr un meini prawf wrth asesu ansawdd y dysgu a'r addysgu, p'un a un a fydd yr holl ddosbarth yn cael ei arwain gan athro/athrawes gymwysedig neu beidio.

Beth fydd yn digwydd os nad ydym yn rhoi pob cam o'r newid cytundebol sydd wedi'i gynnwys o fewn y Cytundeb Cenedlaethol ar waith?

Mae'n rhaid i ysgolion gofio bod pob cam o'r newid cytundebol yn statudol ac mae'n rhaid eu gweithredu'n llwyr erbyn y dyddiadau a roddwyd. Gall fod problemau cysylltiadau diwydiannol difrifol a gallai ysgolion wynebu'r posibilrwydd o athrawon yn chwilio am iawndal cyfreithiol drwy dribiwnlys os bydd yr ysgolion yn methu â gweithredu'r newidiadau cytundebol. Mae'n werth cofio i'r Cytundeb Cenedlaethol gael ei ysgogi gan broblemau difrifol gyda baich gwaith athrawon a oedd yn cael effaith amlwg ar recriwtio, cadw a morâl athrawon. Yn ystod y blynyddoedd diweddar bu llai a llai o ymgeiswyr ar gyfer pob swydd dysgu, ac i raddau mae ymgeiswyr yn cyfweld â'r ysgol yn awr cymaint ag y mae'r ysgol yn cyfweld â hwy. Bydd ysgol sy'n gallu dangos ei bod yn mynd i'r afael â baich gwaith athrawon drwy ailfodelu yn opsiwn mwy deniadol i ymgeiswyr.

 phwy y gallaf siarad am gymorth a chyngor?

Fel pennaeth, efallai yr hoffech gysylltu ag: - Ymgynghorydd Ailfodelu eich AALl - y NRT ar nrt@remodelling.org - eich Canolfan Cyswllt NCSL agosaf - Uned Gweithlu Ysgolion y DfES - undebau athrawon/cymdeithasau sydd yn aelodau o Grwp Monitro'r Cyundeb Gweithlu: ATL, NASUWT, PAT, NAHT, SHA, GMB, TGWU ac UNSAIN- ysgolion eraill, yn lleol neu'n genedlaethol- er enghraifft, y rheiny y gellir dod o hyd i'w hastudiaethau achos ar y wefan hon.

A ddylai staff cefnogi, sy'n gweithio yn yr ysgol, ond yn cael eu cyflogi gan gontractwyr allanol, gael eu cynnwys yn y broses newid?

Mae newidiadau i'r modd y mae ysgolion yn gweithio yn debygol o effeithio ar holl staff yr ysgol, er gwaethaf y trefniadau cytundebol penodol y maent yn cael eu cyflogi oddi mewn iddynt. Gall cyfraniadau gwerthfawr a syniadau da ddod o unrhyw le yn yr ysgol. Mae'n hanfodol bod syniadau pob aelod o staff yn cael eu cynrychioli yn ystod y broses newid, felly byddai'n briodol i ymgynghori â chontractwyr ynghylch sut y gellir cyflawni hyn.

Fel ysgol ailfodelu, a oes rhaid i mi sefydlu Tîm Newid Ysgol?

Mae'r broses newid a gefnogir gan yr NRT wedi'i phrofi gan yr ysgolion hynny sydd wedi mynd i'r afael ag ailfodelu eisoes. Mae timau newid wedi cymryd sawl ffurf, ond mae pob un wedi cynrychioli'r gweithlu. Mae'r ymagwedd yn hyblyg iawn a gellir ei haddasu i ddiwallu'ch anghenion penodol, er enghraifft, drwy fabwysiadau ac ehangu gwaith y tîm presennol yn yr ysgol. Mae ffurfio tîm newid ysgol gynhwysol o gymorth i hyrwyddo perchenogaeth ar y newidiadau i'w cyflwyno. Yn ogystal, mae'n arfer da i ysgolion i ymgymryd ag ymgynghoriad dilys gyda'r undebau sy'n cynrychioli gweithlu'r ysgol.

Rydym wedi drysu ynghylch y fersiynau gwahanol o'r 24 Tasg. Pam maent yn wahanol a pha rhai dylem eu defnyddio?

Roedd rhestr y 25 tasg yn y Cytundeb Cenedlaethol yn destun ailddrafftio mân gan gyfreithwyr pan oedd Dogfen Tâl ac Amodau Athrawon Ysgol (DTAAY) yn cael ei thrafod. Yn y bôn, nid oedd unrhyw newidiadau arwyddocaol. Sut bynnag, mae testun cyfreithiol yn statudol a bydd yn rhaid i chi ganolbwyntio arno wrth roi'r Cytundeb Cenedlaethol ar waith. Mae'n bwysig deall mai enghreifftiau yn unig yw'r tasgau a restrir. Ni ddylid gofyn i athrawon i ymgymryd ag unrhyw dasgau gweinyddol neu glercyddol. Sut bynnag, os oes diddordeb gennych mewn deall sut mae rhestr dasgau'r Cytundeb Cenedlaethol yn wahanol i restr dasgau'r DTAAY gallwch gymharu'r ddwy restr ochr yn ochr mewn tabl, gydag esboniad.

Ble gallaf ddod o hyd i ganllawiau defnyddiol, ymarferol ar ddehongli'r Cytundeb Cenedlaethol a'i roi ar waith?

Ceir nifer o ffynhonellau ar-lein sy'n rhoi cyngor ymarferol, defnyddiol a chanllawiau ar roi'r Cytundeb Cenedlaethol ar waith. Mae'r ffynhonnell fwyaf awdurdodol ar y we, ar TeacherNet, lle y gallwch lawrlwytho Adran 4 y Ddogfen Tâl ac Amodau Athrawon Ysgol 2004 (DTAAY). Mae hon yn rhoi canllawiau ar y newidiadau i'r DTAAY o ganlyniad i'r Cytundeb Cenedlaethol. Mae'r canllawiau hyn yn statudol ac y cytunwyd arnynt gan bawb a lofnododd y Cytundeb. Yn ogystal i'r canllawiau statudol, mae Grwp Monitro Cytundeb y Gweithlu (GMCG) yn cynhyrchu nodiadau i gefnogi gweithredu'r Cytundeb. Gellir dod o hyd i'r rhain yn adran Adnoddau y wefan hon.

Ydy ysgolion cynradd yn gallu defnyddio strategaeth lenwi sy'n mynd â dosbarth cyfnod allweddol un dros y cyfyngiad cyfreithiol o 30 o ddisgyblion mewn dosbarth?

Mae'r gofynion cyfreithiol ar faint dosbarthiadau'n rheoli'r trefniadau arferol mewn ysgolion. Nid ydynt yn gymwys bob eiliad y mae disgyblion yn mynychu'r ysgol. Sut bynnag, byddai pennaeth eisiau ystyried iechyd a diogelwch yn ogystal â phroblemau ymddygiad posibl wrth benderfynu ar strategaeth gyflenwi briodol - mae'n bosibl y byddai manylion yr ystyriaethau hyn yn wahanol ar CA1 o'i gymharu â chyfnodau allweddol eraill.

Mae ein hysgol wedi cyflogi athro/athrawes gyflenwi i ddarparu llawer o anghenion cyflenwi'r ysgol. Mae'r athro hwn/athrawes hon wedi cael 40% o'r amser a glustnodwyd i addysgu wedi'i neilltuo i lenwi ar gyfer cydweithwyr absennol. Yn ôl y Ddogfen Tâl ac Amodau Athrawon Ysgol (DTAAY) ddiwygiedig, ydy hon yn strategaeth dderbyniol a dilys i ddiwallu'n hanghenion cyflenwi?

Yr unig eithriad i'r cyfyngiad 38 awr o ran cyflenwi yw ar gyfer athrawon sy'n cael eu cyflogi “yn gyfan gwbl neu'n bennaf” i gyflenwi. Mae'r gofynion ynghylch y newid cytundebol o ran cyflenwi a gynhwysir o fewn y Cytundeb Cenedlaethol, ac sydd yn gymwys o 1af Medi 2004 yn codi o'r gydnabyddiaeth nad yw cyflenwi ar gyfer staff absennol yn cynrychioli defnydd da o'r adnoddau staffio sydd gan yr ysgol. Hefyd, mae'n rhaid i benaethiaid fod yn ymwybodol o'u dyletswydd sydd wedi'i diwygio i ystyried “peidio â defnyddio athro/athrawes yn yr ysgol [i gyflenwi] nes i bob ffordd arall o gyflenwi wedi'u hystyried.” DTAAY, Adran 4, para. 48.

Beth sy'n cael ei ddiogelu gan y cymal dim-colled a gynhwysir yn y Cytundeb Cenedlaethol ynghylch darparu amser Cynllunio, Paratoi ac Asesu (CPA)?

Bwriad y cymal dim colled yw diogelu amodau athrawon mewn ysgol y mae eisoes ganddynt fwy na 10% o amser dim-gyswllt sydd wedi ei neilltuo ar gyfer cynllunio, paratoi a gweithgareddau asesu ac sydd wedi'i warantu - h.y. ni ellir ailgyfeirio athrawon i ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill yn ystod yr amser hwn, gan gynnwys cyflenwi i gydweithwyr absennol. Nid yw'r cymal dim colled yn gymwys i gyfanswm yr amser di-gyswllt a neilltuwyd i athrawon o'r blaen. Bydd rhoi'r newidiadau cytundebol cam un ar waith, ynghyd ag ailfodelu ehangach o'r gweithlu, wedi cael effaith negyddol ar athrawon o ran nifer a hyd eu dyletswyddau nad ydynt yn ddyletswyddau addysgu, a ellir arwain at leihau cyfanswm yr amser di-gyswllt. Gweler y Ddogfen Tâl ac Amodau Athrawon Ysgol, Adran 4, paragraff 90 ar gyfer geiriad y cymal dim-colled.

Os bydd ysgol yn trefnu gweithgareddau cyfoethogi i ryddhau amser CPA i athrawon, pwy sy'n gallu arwain y gweithgareddau hyn?

Dylai gweithgareddau cyfoethogi gynnal neu wella darpariaeth cwricwlwm yr ysgol. Dylid amserlennu'r holl weithgareddau gyda chynlluniau ar gyfer amcanion dysgu ac asesiadau priodol. Gall gweithgareddau gael eu harwain gan athrawon cymwysedig sydd ag arbenigedd addas, gan staff cefnogi profiadol sydd wedi'u hyfforddi'n ddigonol neu gan hyfforddwyr allanol o dan gyfarwyddyd athrawon. Os bydd y gweithgareddau'n cael eu harwain gan rywun nad yw'n athro/athrawes gymwysedig, dylai'r pennaeth ystyried rheoliadau adran 133 a'r canllawiau a ddosbarthwyd o dan Ddeddf Addysg 2002 a/neu'r safonau a gyhoeddwyd ar gyfer Cynorthwywyr Dysgu'r Lefel Uwch wrth ystyried addasrwydd unigolyn ar gyfer dyletswyddau o'r fath.

Pa arholiadau sy'n cael eu cynnwys yn yr amod na fydd angen i athrawon arolygu o Fedi 2005?

Cynhwysir yr holl arholiadau allanol (ee profion y Cwricwlwm Cenedlaethol, TGAU ac arholiadau AS/A2) o fewn y newid cytundebol cam tri a gynhwysir yn y Cytundeb Cenedlaethol. Cynhwysir ffug arholiadau a phrofion eraill sydd angen newidiadau i amserlen arferol yr ysgol hefyd.

A ellir gofyn i athrawon arolygu ffug arholiadau?

Pan fydd ysgol yn aildrefnu'r amserlen ar gyfer ‘ffug’ arholiadau i efelychu'r broses arholiadau cyhoeddus, ni ddylid gofyn i athrawon arolygu. (Mae hyn yn bwysig hefyd wrth fodelu'r trefniadau arolygu ar gyfer y trefniadau ‘gwirioneddol’ y bydd disgyblion yn eu profi mewn arholiadau allanol).

A oes unrhyw eithriadau i'r trefniadau newydd ynghylch arolygu arholiadau?

Efallai y gofynnir i athrawon gynnal arholiadau ymarferol a llafar ar gyfer y pynciau eu hunain ac i ymgymryd â pharatoi disgyblion a'r agweddau hynny o asesu, cofnodi ac adrodd sy'n gysylltiedig ag arholiadau allanol lle mae angen mewnbwn proffesiynol gan athro/athrawes gymwysedig.

Beth fydd yn digwydd os bydd disgybl sydd ag anghenion arbennig yn sefyll arholiad ac mae natur eu hanghenion yn golygu eu bod mewn ystafell ar wahân i'r brif neuadd arholi? Pwy ddylai arolygu?

Yn yr amgylchiadau hyn dylai pennaeth y ganolfan benderfynu pwy fyddai'r person mwyaf addas i arolygu, a darparu arbenigedd proffesiynol arall, yn seiliedig ar natur anghenion yr ymgeiswyr.

Faint o amser arwain a rheoli dylid ei ddyrannu i athrawon?

Bwriad darparu amser arwain a rheoli i aelodau grwpiau arweinyddiaeth, ac eraill sydd â rolau arwain a rheoli mewn ysgol, yw rhoi peth amser iddynt yn ystod sesiynau ysgol sydd wedi'i neilltuo ar gyfer eu cyfrifoldebau rheoli. Mae adran 4 y DTAAY yn esbonio y bydd yr amser hwn yn cynrychioli “cyfraniad” i'r amser y mae ei angen am gyfrifoldebau o'r fath, a chan ystyried natur amrywiol y tasgau arweinyddiaeth a'r ysgolion eu hunain ni fyddai fformiwla genedlaethol ar gyfer arweinyddiaeth a rheolaeth yn briodol.

Yng ngham tri o'r newidiadau cytundebol a gynhwysir yn y Cytundeb Cenedlaethol ceir gofyniad y dylid darparu i benaethiaid amser ymroddedig i benaethiaid. Sut bydd hyn yn cael ei drefnu? Faint o amser y dylid rhoi iddynt?

Mae'r newid cytundebol ynghylch amser ymroddedig i athrawon wedi'i gynllunio i ddarparu i benaethiaid “amser i arwain eu hysgolion, nid yn unig i'w rheoli”. Bydd gwahaniaethau mewn maint ysgolion, dyletswyddau eraill sydd gan benaethiaid ac adnoddau eraill o fewn yr ysgol yn cael effaith ar faint o amser y pennaeth y gellir ei neilltuo. Sut bynnag, mae'r Cytundeb Cenedlaethol yn dweud y bydd pob pennaeth yn cael peth amser ymroddedig yn ystod y “diwrnod ysgol arferol” o Fedi 2005.