South West and Mid Wales Consortium

Cwestiynau gan Athrawon

Sut mae'r Agenda Ailfodelu'n cydymffurfio â holl fentrau eraill y DfES?

Mae'r DfES yn gweld yr agenda ailfodelu fel rhan o'r “darlun cyfan”, sy'n tanategu mentrau eraill. Y nod cyffredinol yw codi safonau drwy leihau baich gwaith athrawon a rhyddhau athrawon i ddysgu, er mwyn iddynt allu datblygu a darparu cwricwlwm sy'n cael ei yrru'n fwyfwy gan anghenion dysgu unigol a thrawsnewid y defnydd o amser, lle a TGCh. Mae ailfodelu baich gwaith athrawon yn hanfodol, oherwydd bydd yn cael effaith arwyddocaol ar raddfeydd recriwtio a chadw staff a gallu athrawon i weithio'n effeithiol. Yn ogystal, mae ailfodelu'n golygu adeiladu ar allu presennol ysgolion/arweinwyr ysgolion i arwain a rheoli newid yn fwy effeithiol.

Sut mae Cynorthwy-ydd nad yw wedi'i hyfforddi cymryd yn lle athro/athrawes gymwysedig?

Nid yw diwygio'r gweithlu'n golygu defnyddio unrhyw aelod o'r staff cefnogi fel dirprwy yn lle athro/athrawes gymwysedig. Mae'r Cytundeb Cenedlaethol yn gwella rôl a statws athrawon cymwysedig, ond hefyd mae'n cydnabod y cyfraniad pwysig y gall staff eraill ei wneud i ddysgu ac addysgu effeithiol. Elfen hanfodol o ddiwygio'r gweithlu yw adeilada tîm hynod o fedrus i ddarparu cyfleoedd effeithiol i ddisgyblion. Bydd angen athrawon cymwysedig ar ysgolion o hyd i arwain y timau hyn a gwneud penderfyniadau allweddol o ran yr hyn a addysgir a sut. Sut bynnag, dengys tystiolaeth a gasglwyd ar gyfer adroddiad PriceWaterhouse Coopers ar Faich Gwaith Athrawon ac o ffynonellau eraill, fod cyfran sylweddol o amser athrawon cymwysedig yn cael ei ddefnyddio ar gyfer dyletswyddau gweinyddol a dyletswyddau eraill, nad oes angen sgiliau athro/athrawes gymwysedig ar eu cyfer. Mae diwygio'r gweithlu'n golygu rhyddhau athrawon i ddefnyddio'u harbenigedd proffesiynol, yn lle gofyn i staff heb gymwysterau i gymryd eu lle. Sut bynnag, o bryd i'w gilydd, efallai y bydd staff cefnogi sydd wedi'u hyfforddi'n briodol yn gallu, o dan gyfarwyddiaeth a goruchwyliaeth, dysgu dosbarth yn fwy effeithiol nag athro/athrawes gyflenwi nad yw'n gyfarwydd â'r ysgol, y disgyblion a'r cwricwlwm. Mae ailfodelu'n hyrwyddo'r angen am athrawon cymwysedig i arwain a rheoli dysgu. Bydd rhan o'r broses hon yn gofyn am athrawon i weithio gyda staff cefnogi i sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio mewn ffyrdd sy'n ychwanegu gwerth ac yn mwyafu eu cymhwysedd a'u cyfraniad.

Mae plant yn cydnabod ac yn ecsbloetio statws gwahanol oedolion mewn ysgolion. Oni fydd defnydd mwy o Gynorthwywyr Dysgu yn creu problemau ymddygiad?

Seilir y cwestiwn hwn ar y gred mai dim ond athrawon sy'n gallu cadw trefn a disgyblaeth, ond nid oes unrhyw dystiolaeth i awgrymu bod disgyblion yn ymateb yn wahanol i staff mewn ysgolion sy'n cael eu rheoli'n dda oherwydd bod rolau gwahanol gan y staff. Yr hyn sy'n bwysig yma yw ethos cyfan yr ysgol a'r berthynas rhwng y disgyblion a'r oedolion. Gall cynllunio gofalus a hyfforddiant priodol alluogi pawb i weithio'n effeithiol gyda'i gilydd. Mae angen paratoi'n ofalus ar gyfer unrhyw newid i rolau a chyfrifoldebau pobl. Bydd yn rhaid i arweinwyr ysgolion ystyried hyn yn ofalus, gan ganolbwyntio'n glir ar ddarparu'r cyfleoedd gorau i ddisgyblion ddysgu'n effeithiol.

Oni fydd defnyddio Cynorthwywyr Dysgu yn lle athrawon yn cael effaith ar safonau?

Ni ellir cyfnewid Cynorthwywyr Dysgu (CD) am athrawon ac ni allant fod yn ddirprwyon ar eu cyfer ychwaith. Bydd athrawon yn dal i fod yn gyfrifol am gyfarwyddo a goruchwylio CDau sy'n ymgymryd â gweithgareddau sy'n berthnasol i ddysgu ac addysgu a bydd athrawon wastad yn gyfrifol am gynnydd disgyblion. Mae effeithiolrwydd y CDau'n dibynnu ar ansawdd eu hyfforddiant, eu datblygiad a'u cefnogaeth.

Pwy sy'n gyfrifol am fynd i'r afael â materion cydbwysedd gwaith/bywyd ac ymgymryd â thasgau gweinyddol ar gyfer athrawon a gyflogir yn ganolog?

Fel cyflogwyr uniongyrchol, mae Awdurdodau Addysg Lleol yn gyfrifol am athrawon a gyflogir yn ganolog o dan Ddogfen Tâl ac Amodau Athrawon Ysgol (DTAAY) ac felly am fynd i'r afael â'u baich gwaith a chydbwysedd gwaith/bywyd, a phob agwedd ar y Cytundeb Cenedlaethol. Mae hyn yn debygol o gael ei wneud drwy'r system reoli llinell. Byddai'n gyfrifoldeb y cyflogwr uniongyrchol i sicrhau bod athrawon a gyflogir yn ganolog yn derbyn o leiaf 10 y cant o'r amser CPA fel lleiafswm o Fedi 2005.

A ydy'n gywir nad yw athrawon yn gallu gweithio ar unrhyw arddangosfeydd?

Mae'r Cytundeb Cenedlaethol yn anelu at godi safonau drwy ailgyfeirio gwaith athrawon i'r dasg hanfodol o addysgu. Bu llawer o dasgau y mae athrawon wedi mynd i'r afael â hwy yn y gorffennol nad oes angen arnynt sgiliau nac arbenigedd athro/athrawes gymwysedig i'w cyflawni. Mae arddangosfeydd dosbarth/coridor yn un dasg. Mae arddangosfeydd yn chwarae rôl bwysig i greu awyrgylch dysgu positif. Felly, efallai y byddai athrawon yn dymuno chwarae rôl wrth gynllunio a chomisiynu arddangosfeydd, a chyfeirio eu datblygiad. Sut bynnag, ni ddylid gofyn i athrawon baratoi, gosod neu dynnu arddangosfeydd i lawr yn rheolaidd.