Beth yw ystyr ailfodelu?
Mae'r Llywodraeth yn ymroddedig i godi safonau yn ein hysgolion, a sicrhau cydbwysedd gwaith/bywyd gwell i athrawon a gweithwyr ysgol eraill.
Wrth wraidd y rhaglen ailfodelu mae yna gred sylfaenol fod newid dwfn yn gallu digwydd ac yn digwydd. Yr hyn y mae ei angen yw agwedd ac ymddygiad newydd, credoau a gwerthoedd newydd, a chreu sgiliau a galluoedd newydd ac yn bwysicaf oll, eu cynnal.
Ailfodelu
Mae ailfodelu'n wahanol i fentrau eraill ysgolion. Mewn gwirionedd, yn hytrach na bod yn un fenter mae'n dod â'r lleill at ei gilydd. Mae ailfodelu'n:
- Ddull hunangyfeiriol sy'n gosod yr ysgol mewn sefyllfa i reoli ei newid ei hun.
- Cydnabod bod yn rhaid i ysgolion ffurfio atebion unigryw i broblemau cyffredin - nid yw un dull yn gweddu i bawb.
- Dibynnu ar ymglymiad a chyfranogiad cymuned yr ysgol gyfan.
- Troi o amgylch proses newid sy'n ffordd lwyddiannus o reoli newid mewn ysgolion.
- Cael ei seilio ar rwydwaith eang o gefnogaeth yn cynnwys AALlau a'r Consortiwm.
Mae deall a rheoli newid yn rhan allweddol o broses ailfodelu'r ysgol. Yn aml hon yw'r rhan fwyaf anodd. Yn hytrach na chael cyfarwyddiadau i'w dilyn, mae'r broses newid yn cynnwys newid sylfaenol yn y ffordd o feddwl.
Bydd y wefan hon yn darparu'r wybodaeth i chi ar ailfodelu a'r broses newid.
Ein proses newid
Y flaenoriaeth gyntaf i ysgolion yw gweithredu'r Cytundeb Cenedlaethol.
I arwain ysgolion wrth iddynt ailfodelu, rydym yn hybu proses newid sy'n seiliedig ar y technegau a'r profiad yr ydym wedi'u hennill yn y byd busnes a'r byd addysg, ac wedi'u profi mor llwyddiannus gyda'n hysgolion peilot.
Mae Timau Newid Ysgol a chydweithio'n ddwy o bum elfen allweddol yr ydym yn eu hargymell mewn ailfodelu llwyddiannus.
Er y bydd ysgolion yn canfod eu hatebion eu hunain i broblemau penodol, mae rhai nodau allweddol cyffredin wrth ailfodelu. Isod ceir enghreifftiau o'r hyn y byddwch efallai yn eu gweld, neu y dylech ddisgwyl eu gweld yn eich ysgol ar ôl mynd trwy'r broses ailfodelu:
- Dysgu ac addysgu yw'r prif ffocws.
- Mae'r gweithlu'n cymryd rhan wrth wneud penderfyniadau.
- Cyflawnir tasgau a gweithgareddau gan y bobl addas o fewn patrymau gwaith hyblyg.
- Mae rheoli newid yn rhan normal o fywyd ysgol.
- Mae'r ysgol yn rhannu profiadau a dysgu gydag ysgolion eraill.
- Mae'r cydbwysedd gwaith/bywyd yn dderbyniol i'r gweithlu cyfan.
- Mae'r gweithlu cyfan a budd-ddeiliaid eraill yn ymwybodol o gyfeiriad yr ysgol.