South West and Mid Wales Consortium

[English]

Rhaglen Beilot y Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion

Trosolwg o gyd-destun y cam peilot gan gynnwys y cyd-destun cenedlaethol a rhanbarthol.


Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru a’i phartneriaid llywodraeth leol yn credu y gall pawb drwy gydol eu hoes ddysgu a datblygu a gwireddu eu potensial yn llawn,dim ond iddynt gael y cymorth, yr anogaeth a’r amodau priodol ar gyfer dysgu.

Mae parhau i wella’r canlyniadau i ddysgwyr yng Nghymru’n dal yn un o brif flaenoriaethau Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae Y Wlad sy’n Dysgu: Gweledigaeth ar Waith yn nodi’n glir ein bod yn awyddus i adeiladu ar wybodaeth gyfredol am yr hyn sy’n gwneud lleoliadau dysgu effeithiol er mwyn datblygu a gwella rhagor ar ein system addysg. Mae Cymru’n Un, y rhaglen flaengar ar gyfer llywodraethu Cymru, yn ymrwymo Llywodraeth y Cynulliad i roi addysg o’r radd flaenaf i blant a phobl ifanc Cymru ac i weithio gyda darparwyr addysg, ymarferwyr a rhieni i greu’r ysgolion gorau posibl ar gyfer y dyfodol.

Mae hyn yn gofyn am ffyrdd arloesol o feddwl ac ymarfer ar bob lefel. Y Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion yw’r cyfrwng ar gyfer datblygu’r ymrwymiadau hyn, drwy alinio polisïau a’r ffordd y cânt eu gweithredu er mwyn sicrhau gwell canlyniadau.

Gwahoddodd Llywodraeth y Cynulliad Gonsortiwm De Orllewin a Chanolbarth Cymru i ddatblygu ymagwedd amgen ar gyfer cynllun peilot y Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion i ysgolion.

Roedd hyn mewn cydnabyddiaeth bod rhaid i ysgolion unigol a’u hawdurdodau lleol berchen ar y Fframwaith yn lleol er mwyn iddo fod yn effeithiol, a bydd rhaid iddo adeiladau ar waith sy’n bodoli eisoes mewn ysgolion ac awdurdodau lleol ac ar fentrau presennol Llywodraeth y Cynulliad. Croesawodd Consortiwm De Orllewin a Chanolbarth Cymru y cyfle i ddatblygu ymagwedd a fyddai’n adeiladu ar weithredu consortiwm sefydledig ac a fyddai’n effeithiol yn y cyd-destun lleol.

Digwyddiadau

School Effectiveness Framework: Dissemination Conference
22 October 2009

Cyflawniadau

A National Framework For School Effectiveness: A Regional Case Study Of Developing System Leadership In Action [English] 303kb

David Brunton[1], Dr Sue Davies[2], Mike Gibbon[3], Pauline Lewis[4], Karl Napieralla[5] John Radford[6]

Crynodeb
Mae'r erthygl hon yn disgrifio'r broses a fabwysiadwyd drwy waith cydweithredol mewn consortiwm i redeg cynllun peilot o'r Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion yng Nghymru. Mae'r erthygl yn trafod sut mae datblygu gweithio yn gydweithredol ar draws rhanbarth sy'n cynnwys chwe awdurdod addysg lleol annibynnol yn effeithio ar newid drwy ddatblygiad, cyflwyno a monitro, ac yna'n ychwanegu gwerth at waith pob sefydliad ac awdurdod lleol, gan sicrhau bod y systemau a ddatblygir yn defnyddio'r adnoddau sydd ar gael yn effeithiol a chynyddu i'r eithaf yr effaith ar safonau i ddisgyblion, sefydliadau, rhanbarthau ac yn genedlaethol.

Papur a gyflwynwyd i 23ain Cynhadledd Ryngwladol ar gyfer Effeithiolrwydd a Gwelliant Ysgolion 2010 yn Kuala Lumpur 5 - 8 Ionawr 2010

[1] swamwac programme co-leader, [2] Trinity University College, Carmarthen, [3] Sandfields Comprehensive School, Neath Port Talbot, [4] South West and Mid Wales Consortium, [5] County Borough of Neath Port Talbot, [6] Pontarddulais Comprehensive School, Swansea


A National Framework for School Effectiveness: A Regional Case Study of Developing System Leadership in Action - Powerpoint presentation [English] 1.38Mb

Astudiaethau Achos

Proffil Effeithiolrwydd Ysgolion (PEY) 301kb
Proffil Effeithiolrwydd Ysgolion (PEY): Ffurflen Gofnodi 156kb
Rhaglen Beilot y Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion Adroddiad Terfynol 580kb

Aelodau'r Grŵp

CaerfyrddinAlan Walters
awalters@carmarthenshire.gov.uk
CeredigionCatherine Woodward
catherinew@ceredigion.gov.uk
Castell Nedd Port-TalbotZac Davies
z.davies@npt.gov.uk

Aled Evans
a.evans@neath-porttalbot.gov.uk

Mike Gibbon
m.gibbon@npt.gov.uk
Sir BenfroSue Crowley
sue.crowley@pembrokeshire.gov.uk

Sue Painter
head.portfield@pembrokeshire.gov.uk

Nigel Hughes
nigel.hughes@pembrokeshire.gov.uk
PowysJohn Barker
john.barker@powys.gov.uk
AbertaweIan James
ian.james@swansea.gov.uk
swamwacPauline Lewis
pauline.lewis@swamwac.org

David Brunton
david.brunton@swamwac.org

Dogfennau Allweddol

Dewiswch bwnc: