South West and Mid Wales Consortium

Yn ôl i hafan y pecyn cymorth    [English]

Pecyn cymorth ar gyfer Gwella Ysgolion

Diben:
            Cyfeirio hunanwerthuso trwyadl
            i wella safon y dysgu a’r addysgu.


Data

Nod templedi data hunanwerthuso Swamwac yw iddynt gael eu defnyddio gan ysgolion ac Awdurdodau Lleol i ganolbwyntio ar ddata s’yn deillio o ysgolion, Awrdurdodau Lleol a rhai Cenedlaethol.

Defnyddir cyfres o gwestiynau a gymerir yn uniongyrchol o lawlyfrau hunanwerthuso newydd Estyn 2010 sy’n gysylltiedig â Fframwaith Arolygu Cyffredin Estyn (FfAC) er mwyn i ysgolion lunio nodiadau ysgrifenedig. Mae’r atebion yn seiliedig ar ddata sydd ar gael yn unig sy’n arwain at sylwadau am gryfderau a meysydd i’w datblygu yn yr ysgol.

Sylwer bod y templedi hyn yn perthyn i ddata Cenedlaethol a Lleol y FfAC. Mae cwestiynau CA1 sy’n gofyn i ysgolion gyfeirio at dystiolaeth adolygu hunanwerthuso neu ddata/cofnodion mewnol disgyblion sy’n ymddangos mewn coch. Mae’r agweddau hyn y tu allan i gylch gwaith y pecyn cymorth hwn.

Darperir arweiniad a chyngor i ateb y cwestiynau yn Arweiniad Pecyn Cymorth swamwac. Rhoddir ffynonellau tystiolaeth awgrymedig gerllaw pob cwestiwn a darperir rhestr gynhwysfawr o ffynonellau data yn yr adran Ffynonellau Data.

Cyd-destun yr Ysgol

Mae’n bwysig ysgrifennu datganiad cyd-destun am eich ysgol i roi cefndir i ddata perfformiad yr ysgol. Mae’n caniatáu i’r darllenydd werthfawrogi lleoliad yr ysgol, natur ei charfan ac unrhyw wybodaeth berthnasol arall fel staffio

Mae’r wybodaeth i’w chael yn rhannol o’r wybodaeth gyd-destun yn y set Data Craidd ond mae hefyd yn rhoi cyfle i ysgolion atgoffa eu hunain am gyd-destunau eraill nad ydynt yn amlwg yn unig drwy ystyried data PLASC blynyddol.

Agweddau sy’n ymwneud â data ar gyfer hunanwerthuso ysgolion

Case Studies



Yn ôl i hafan y pecyn cymorth