Gwasanaethau Transffurfio
Gweithgaredd Cyfredol
Erbyn mis Medi 2011 - cyflwyno argymelliadau ar gyfer natur a chwmpas gwasanaethau rhanbarthol neu isranbarthol a rennir, wedi'u blaenoriaethu o ran aeddfedrwydd gweithio ar y cyd fel y nodir yn yr astudiaeth dichonoldeb ac yn yr agenda cenedlaethol ar gyfer yr holl wasanaethau sy'n ymwneud ag addysg a sicrhau bod y cyfleoedd sy'n codi fel rhan o'r broses trawsnewid AB ac AU yn cael eu hystyried.
Erbyn mis Mawrth 2012 - datblygu adroddiad sy'n amlinellu'r broses drawsnewid ar gyfer darparu gwasanaethau a rennir ar draws y rhanbarth
Bydd hyn yn cynnwys :
- Adolygu deilliannau dichonolrwydd a gweithio i goladu a dadansoddi dyraniad adnoddau presennol i ddarparu fframwaith ar gyfer dirprwyo arian a chyfrifoldebau'n well.
- Datblygu fframwaith ar gyfer mwy o weithio ar y cyd drwy well safoni ac eglurder manylebu gwasanaethau a chytundebau lefel gwasanaeth a strwythurau cleientiaid/broceriaeth effeithiol.
- Nodi a blaenoriaethu opsiynau penodol i'w datblygu'n fwy manwl
- Gwaith dichonolrwydd mewn perthynas ag opsiynau blaenoriaeth a nodwyd i bennu achosion busnes
- Map o'r ffordd sy'n gosod ffordd ymlaen a'r amserlenni a argymhellir
- Rheoli rhaglenni mewn ffordd effeithiol i ddarparu strategaethau a gwireddu'r buddion
- Cynllun Cyfathrebu a phrosesau rheoli newid/AD
Mewngofnodi i'r Ardal Trawsnewid Gwasanaethau [English]