Astudiaethau Achos Pontio
Pontarddulais: Achredu Sgiliau Allweddol, Prosiect Cymhwyso Rhif
Trosolwg o’r Prosiect
Darparu prif ffocws ar gyfer staff a disgyblion sy'n ymwneud ag wythnos bontio yn Ysgol Gyfun Pontarddulais.
Hyrwyddo Achredu Sgiliau Allweddol ym maes Cymhwyso Rhif
Nodi'r sgiliau sydd gan ddisgyblion Blwyddyn 6 wrth ddod i’r ysgol
Ysgolion sy'n cymryd rhan
Ysgol Gyfun Pontarddulais, Ysgolion partner: Llangyfelach, Pengelli, Penllergaer, Pontarddulais. Pontlliw.
Iaith
Saesneg
Cyd-destun
Mae Ysgol Gyfun Pontarddulais yn ysgol lwyddiannus iawn o dua 800 o ddisgyblion ar gyfer disgyblion 11-16 oed. Mae ganddi gysylltiadau agos â'r gymuned leol. Mae ganddi enw da am arfer da mewn pontio. Mae tua 150 o ddisgyblion ysgol gynradd yn mynd i ysgol Pontarddulais bob blwyddyn. Mae'r rhan fwyaf o'r disgyblion yn dod o ysgolion cynradd lleol ac mae rhai yn dod o Gaerfyrddin.
Cysylltiadau allweddol
Richard Steer (TG, Ysgol Gyfun Pontarddulais)
Gareth Davies (Mathemateg, Cydlynydd Rhifedd, Ysgol Gyfun Pontarddulais)
Ysgol Gyfun Pontarddulais, Ffordd Caecerrig, Pontarddulais. Abertawe SA4 1PD
01792 884556
pontarddulais.comprehensive.school@swansea-edunet.gov.uk