South West and Mid Wales Consortium

[English]

Astudiaethau Achos Pontio

Teulu Ysgolion Syr Thomas Picton:
Datblygu
• Cwestiynu a Sgiliau Meddwl Uwch
• Canllawiau ar gyfer Cyfathrebu yn yr Ystafell Ddosbarth

Trosolwg o’r Prosiect

Mewn ymateb i'r Fframwaith Sgiliau a mentrau’r AALl, penderfynodd yr ysgolion ganolbwyntio ar ddatblygu cwestiynu a sgiliau meddwl uwch ac i gysylltu'r rhain â'r ymagweddau a rennir i hyrwyddo cyfathrebu yn yr ystafell ddosbarth. Aeth Penaethiaid yr ysgolion i HMS Sgiliau Meddwl y Sir yn 2006. Ar ôl hynny, roeddent wedi cynnal diwrnod HMS ar gyfer staff eu hysgolion, gyda siaradwr gwadd a ddatblygodd ymagweddau pellach i ddefnyddio sgiliau meddwl. Yna bu cydweithwyr dewisol yn cwrdd i greu deunyddiau sy'n rhoi manylion am nifer o strategaethau i'w defnyddio yn yr ystafell ddosbarth.

Ysgolion sy'n cymryd rhan

Ysgol (Gyfun) Syr Thomas Picton, Hwlffordd a'i 6 ysgol bartner (Ysgol RW Hwlffordd a reolir yn wirfoddol, Ysgol Gymunedol Neyland, Ysgol Gymunedol Prendergast, Ysgol y Garn, Ysgol Spittal, Ysgol St Aidan Wiston).

Iaith

Saesneg

Cyd-destun

Mae Ysgol Syr Thomas Picton yn Ysgol Gyfun ar gyfer disgyblion 11-18 oed, sy'n gwasanaethu chwe ysgol fwydo yn nhref sirol Hwlffordd a’r cyffuniau. Mae gan yr ysgol ardal dalgylch gymysg gan gynnwys disgyblion o gefndiroedd gwledig a threfol ac mae canlyniadau CA2 yn y clwstwr yn uwch na chyfartaledd yr AALl.

Cysylltiadau allweddol

Candy Tamsett, Pennaeth Cynorthwyol, Ysgol Syr Thomas Picton, Ffordd y Frenhines, Hwlffordd SA61 2NX
01437 765394
ctamsett@stp.pembrokeshire.sch.uk

Adnoddau

3. STP Powerpoint
4. Questions To Help With Thinking Skills

Cwestiynau cyffredin

Sir Thomas Picton FAQ